WhatsApp

Platfform sgwrsio unigol a grŵp am ddim i ddefnyddwyr From Wikipedia, the free encyclopedia

WhatsApp
Remove ads

Mae WhatsApp yn gymhwysiad meddalwedd ap sy'n dibynnu ar y rhyngrwyd a ddatblygwyd ar gyfer ffôn clyfar. Yn ogystal â'r swyddogaeth SMS, gellir defnyddio'r cymhwysiad hefyd i ffurfio sgyrsiau grŵp, anfon lluniau, negeseuon cyfryngau fideo a sain rhwng defnyddwyr WhatsApp. Mae'r cymhwysiad ar gael ar gyfer ffonau clyfar iPhone ac Android.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dyddiad cyhoeddi ...
Thumb
Logo adnabyddus WhatsApp
Remove ads

Hanes

Sefydlwyd WhatsApp Inc. yn 2009 gan Brian Acton a Jan Koum, y ddau o gwmni a platfform Yahoo!, ac mae wedi'i leoli yn Nyffryn Silicon.[1]

Mae'r cymhwysiad yn cystadlu â nifer o wasanaethau SMS Asiaidd (fel LINE, KakaoTalk a WeChat). Ym mis Hydref 2011, cyrhaeddwyd biliwn o negeseuon dyddiol[2] ac roedd y nifer wedi dyblu ym mis Ebrill 2012.[3] Cyrhaeddwyd 10 biliwn ym mis Awst 2012.[4]

Ieithoedd ar WhatsApp

Thumb
Sgwrsio ar Whatsapp

Mae wyneb ddalen WhatsApp ar gael mewn 60 iaith ar y fersiwn Android a 40 ar y fersiwn iPhone.[5] Ymysg yr ieithoedd yma mae'r ieithoedd mwyaf fel Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a hefyd 10 iaith yn India (Hindi, Bangla, Punjabi, Telugu, Marathi, Tamil, Wrdw, Gwjarati, Kannada, Malayalam) ac ieithoedd llai fel Afrikaans a Gwyddeleg. Yn anffodus, dydy'r Gymraeg ddim yn un o'r ieithoedd sydd ar gael.

Remove ads

Priodweddau

Cymharodd Financial Times effaith WhatsApp ar y farchnad negeseuon testun â ditto Skype ar gyfer teleffoni llinell dir.[1]

Mae'r cymhwysiad yn freeware (radwedd),[6] ac ar ôl ei osod nid oes unrhyw gostau ychwanegol ar ffurf e.e. setliad tanysgrifiad neu ddefnydd. Mae hyn yn gysylltiedig â'r ffaith bod y traffig yn defnyddio cysylltiad rhyngrwyd y ffôn trwy'r rhwydwaith symudol neu Wi-Fi.

Wrth osod WhatsApp, rydych chi'n creu cyfrif defnyddiwr gyda manylion eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn. Yn seiliedig ar lyfr cyfeiriadau ffôn y defnyddiwr, mae'r rhaglen yn cynnal chwiliad yn y gronfa ddata defnyddwyr i ddod o hyd i rifau cyfatebol.

Caffaelodd Facebook y gwasanaeth WhatsApp yn 2014 am $16 biliwn, gan gynnwys $4 biliwn mewn arian parod a thua $12 biliwn mewn stoc Facebook. Mae'r cytundeb hefyd yn caniatáu ar gyfer rhoi $3 biliwn ychwanegol mewn cyfranddaliadau wrth gefn i sylfaenwyr a gweithwyr WhatsApp a fydd yn breinio dros bedair blynedd ar ôl cau.[7]

Controfersi

Ym mis Medi 2021, rhoddodd yr Awdurdod Diogelu Data yn Iwerddon (lle mae pencadlys Ewropeaidd Facebook) ddirwy o 225 miliwn ewro ar WhatsApp am rannu gwybodaeth defnyddwyr yn anghyfreithlon â chwmnïau eraill sy'n eiddo i Facebook ac am beidio â gwneud eu defnyddwyr yn ddigonol ymwybodol o sut y defnyddiwyd y wybodaeth. Galwodd WhatsApp y ddirwy yn anghymesur a bydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad.[8]

Remove ads

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads