Willy Brandt

From Wikipedia, the free encyclopedia

Willy Brandt
Remove ads

Gwleidydd o'r Almaen oedd Willy Brandt, enw genedigol Herbert Ernst Karl Frahm (18 Rhagfyr 19138 Hydref 1992). Roedd yn Ganghellor Gorllewin yr Almaen o 1969 hyd 1974.[1]

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...

Ganed ef yn Lübeck yn fab i Martha Frahm; ni chafodd byth wybod pwy oedd ei dad. Ymunodd â phlaid ganol-chwith y SPD ym 1930, ond y flwyddyn wedyn ymunodd â phlaid fechan ymhellach ar y chwith, y Sozialistische Arbeiterpartei. Wedi i'r Natsïaid ddod i rym, ffôdd i Norwy i drefnu gwrthwynebiad iddynt. Un o'i ffugenwau o'r cyfnod hwn oedd "Willy Brandt". Pan feddiannwyd Norwy gan yr Almaen, symudodd i Sweden.

Etholwyd ef i'r Senedd ym 1949 fel aelod o'r SPD, ac yn faer Gorllewin Berlin ym 1957. Ef oedd y maer pan adeiladwyd Mur Berlin ym 1961.

Bu'n weinidog tramor, cyn dod yn Ganghellor yn 1969. Nodweddid ei gyfnod fel canghellor gan ei ymgais i ddod i delerau â'r Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw. Ar 6 Mai 1974, ymddiswyddodd yn annisgwyl. Un rheswm oedd ei fod wedi cael gwybod fod gwybodaeth am ei fywyd personol wedi dod i feddiant llywodraeth Dwyrain yr Almaen.

Dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ym 1971.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads