Yasser Arafat
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Arweinydd gwleidyddol o Balesteina oedd Yasser Arafat (24 Awst 1929 – 11 Tachwedd 2004). Ganwyd yn ninas Cairo, yr Aifft, ac ystyriwyd ef yn ymladdwr dros ryddid Palesteina gan ei gefnogwyr ac fel terfysgwr gan eraill megis Israel. Roedd yn gyd-sefydlydd Mudiad Rhyddid Palesteina (y PLO) a'i gadeirydd o 1969 ymlaen, ac o dan faner y mudiad hwnnw bu'n gyfrifol am lu o ymosodiadau ar dargedau Israelaidd ac Arabiaidd fel ei gilydd. Daeth wedyn yn Llywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina trwy fod yn Arlywydd Cyngor Deddfwriaethol Palesteina, ac yn gyd-enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn 1994, gyda Shimon Peres a Yitzhak Rabin.
Trwy'r rhan fwyaf o'i yrfa, bu'n brwydro dros ddileu'r Wladwriaeth Iddewig, ac er iddo gydnabod hawl Israel i fodoli yn yr 1990au cynnar, roedd llawer o Iddewon yn dal i fod yn ddrwgdybus ohono. Bu hefyd yn gorfod brwydro gydag arweinwyr rhai gwledydd Arabaidd eraill, fel yr Aifft a Gwlad Iorddonen, a oedd yn gweld ei fudiad yn fygythiad i'w hawdurdod.
Mynnodd Bassam Abu Sharif, sef cyn ymgynghorydd Arafat i Mossad wenwyno Arafat drwy roi gwenwyn yn ei fedyginiaeth.[1] Ond mynnodd rhai Israeliaid blaenllaw mai gwenwyn bwyd oedd yr achos dros ei farwolaeth.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads