Yr Helyntion

From Wikipedia, the free encyclopedia

Yr Helyntion
Remove ads

Cyfnod o wrthdaro ethno-wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon oedd yr Helyntion (Saesneg: The Troubles, Gwyddeleg: Na Trioblóidí) a barhaodd o ddiwedd y 1960au hyd Gytundeb Gwener y Groglith ym 1998, er bod ychydig o drais ers hynny. Tair carfan y gwrthdaro oedd lluoedd diogelwch y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, gweriniaethwyr Gwyddelig, gan gynnwys yr IRA; a'r Unoliaethwyr, gan gynnwys yr UDF a'r Ulster Defence Association (UDA). Brwydrodd y gweriniaethwyr a'r Unoliaethwyr dros statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon, a cheisiodd lluoedd diogelwch y ddwy wladwriaeth dawelu'r ymladd (er bod cyhuddiadau bod rhywfaint o gymorth gan Weriniaeth Iwerddon i'r gweriniaethwyr, a chan y DU i'r Unoliaethwyr).

Thumb
Y lleihad yng nghanran Protestaniaid Iwerddon.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dyddiad ...
Thumb
Map gwleidyddol o Iwerddon, adeg yr Helyntion

Bu brwydro ar draws Gogledd Iwerddon, yn enwedig yn y brifddinas Belffast, rhwng y cymunedau Catholig, a oedd ar y cyfan yn cefnogi'r gweriniaethwyr, a'r cymunedau Protestannaidd, a oedd ar y cyfan yn gefnogol o'r Unoliaethwyr. Bu'r gwrthdaro hefyd yn ymledu i weddill y Deyrnas Unedig ac i Weriniaeth Iwerddon ar ffurf terfysgaeth.

Remove ads

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads