Yr Ysgwrn
cartref Hedd Wyn, yn Nhrawsfynydd, Gwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ffermdy a'i leolir tua milltir i'r dwyrain o Drawsfynydd, Gwynedd, ydy Yr Ysgwrn. Mae'n dyddyn sydd wedi ei gosod ar ddau lawr â to llechi, arferai eiddew orchuddio'r waliau.[1] Credir ei fod yn dyddio'n ôl i 1519.[2]
Dyma hen gartref y bardd enwog Hedd Wyn, a'r teulu yw'r perchnogion hyd heddiw. Mae'r Gadair Ddu (cadair enwog yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw, 1917) yn cael ei chadw yn y parlwr. Cyrhaeddodd y Gadair ar dren o Lerpwl, gyda lliain du drosti.
Remove ads
Heddiw
Mae'r Ysgwrn bellach yn adeilad rhestredig[3] Nid oes trydan na dŵr nac ystafell ymolchi yn y tŷ.[4] ym meddiant Parc Cenedlaethol Eryri.
Gofalodd Gerald Williams, nai Hedd Wyn ar ôl y ffermdy a'r tir am flynyddoedd cyn iddo gael ei drosglwyddo i'r Parc. Am nifer o flynyddoedd roedd yn tywys ymwelwyr o gwmpas y tŷ lle dangoswyd holl gadeiriau Hedd Wyn, chwech i gyd. Ni dderbyniodd unrhyw dâl am dywys yr ymwelwyr ac nid oedd oriau agor ffurfiol, ond roedd ymwelwyr wastad yn cael eu croesawu.[5] Ganwyd Gerald yn Yr Ysgwrn yn 1929 a bu farw yn 92 mlwydd oed, yn 2021.[6]
Ers Mawrth 2012 y perchnogion newydd yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n gofalu am y cartref a'r ganolfan a chaffi, rhyw gan metr islaw'r ty. Gobeithiant ddatblygu'r ffermdy yn Nhrawsfynydd yn ganolfan i adrodd hanes Hedd Wyn ac erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf.[7]
Remove ads
Ffilmio
Ffilmiwyd rhan o'r ffilm Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn. Cafodd y ffilm ei henwebu ar gyfer Oscar.
Oriel
Llyfryddiaeth
- Llyfrau Llafar Gwlad 61: Llyfr Lloffion Yr Ysgwrn, Mawrth 2005, Gwasg Carreg Gwalch, ISBN 9780863819537, llyfr sy'n adrodd hanes Hedd Wyn a thaith y Gadair Ddu i'r Ysgwrn
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads