Zenon o Elea

From Wikipedia, the free encyclopedia

Zenon o Elea
Remove ads

Athronydd Groegaidd cynnar oedd Zenon o Elea (Groeg: Ζήνων ὁ Ἐλεᾱ́της; tua 490 – hyd at tua 470 CC efallai), yn ddisgybl i Parmenides. Roedd ei edmygwyr yn cynnwys Platon ac Aristotlys. Roedd yn frodor o Elea.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Fe'i cofir gan Aristotlys fel y gŵr a sylfaenodd y gangen o athroniaeth a elwir yn rhesymeg athronyddol (philosophical dialectics). Mae llawer o'i ddadleuon wedi eu anelu at wrthwynebwyr Parmenides ac yn cynnwys dadleuon yn erbyn lluosogrwydd (plurality) ac yn erbyn dichonolrwydd symudiad.

Mae'n enwog hefyd am ei ddefnydd o baradocsau, sy'n cynnwys paradocs y cwrs rasus, paradocs Achiles, paradocs y saeth, a pharadocs y rhesi symudol (gweler paradocs).

Remove ads

Ffynonellau

  • D. James Jones, Hanes Athroniaeth: Y Cyfnod Groegaidd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939), pennod "Zenon", tt.38–42
Baner Gwlad GroegEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato..
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads