Caerfyrddin
tref yn Ne Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref sirol Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Caerfyrddin[1] (Saesneg: Carmarthen). Saif ar lan Afon Tywi rhyw 8 milltir (13 km) i'r gogledd o aber yr afon; mae hefyd yn gymuned. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 14,185 ac mae ei harwynebedd yn 2,110hr. Yn ôl cyngor y dref, Caerfyrddin yw'r dref hynaf yng Nghymru; gwyddom i waliau'r dref gael eu codi oddeutu OC. Mae ganddi nifer o safleoedd treftadaeth sydd wedi goroesi dros y blynyddoedd; mae rhain yn cynnwys yr amffitheatr Rufeinig a rheilffordd y Gwili. Mae gan yr ardal gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae'r ardal yn gartref i bencadlys Heddlu Dyfed-Powys, pencadlys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru. Yn 2014 penderfynwyd adleoli swyddfeydd S4C i Gaerfyrddin.[2]
Math | tref farchnad, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 13,148 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8569°N 4.3164°W |
Cod SYG | W04000494 |
Cod OS | SN415205 |
Cod post | SA31-33 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au | Simon Hart (Ceidwadwr) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]