![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bf/Eglwys_Dewi_Sant_-_St_David%2527s_Church%252C_Blaenporth%252C_Ceredigion%252C_Wales_20.jpg/640px-Eglwys_Dewi_Sant_-_St_David%2527s_Church%252C_Blaenporth%252C_Ceredigion%252C_Wales_20.jpg&w=640&q=50)
Dewi Sant
sefydlydd ac abad-esgob cyntaf Tyddewi a nawddsant Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dewi Sant (bl. 6g; bu farw yn 589 yn ôl Rhigyfarch[1]) yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano ond mae'n eitha sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf; yn ôl Rhigyfarch, Non oedd ei fam, a dreisiwyd gan Sant - mab pennaeth Ceredigion.[2] Dethlir Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth. Nodir yn y Fuchedd Gymraeg Llyfr Ancr Llanddewibrefi (Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen) ei bregeth olaf, lle dywedodd, "Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i."
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Dewi Sant | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 512 ![]() Sir Benfro ![]() |
Bu farw | 589 ![]() Tyddewi ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig ![]() |
Dydd gŵyl | 1 Mawrth ![]() |
Tad | Sant ap Ceredig ![]() |
Mam | Non ![]() |
Cau