Llanymynech
pentref ym Mhowys ac yn Swydd Amwythig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw Llanymynech,[1] tua hanner y ffordd rhwng Croesoswallt a'r Trallwng, ger glan Afon Efyrnwy. Saif hanner gorllewinol y pentref yng nghymuned Carreghwfa ym Mhowys, tra mae'r hanner dwyreiniol ym mhlwyf sifil Llanymynech and Pant yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Llanymynech and Pant, Carreghwfa |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys Swydd Amwythig |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.781°N 3.089°W |
Cod OS | SJ266209 |
Pan oedd yr hen Sir Drefaldwyn yn cau'r tafarnau ar y Sul, roedd tafarn yn Llanymynech, y Lion, sydd yn awr wedi cau, lle roedd un bar, yng Nghymru, ar gau ar y Sul, a'r bar arall, yn Lloegr, ar agor. Yng Nghlwb Golff Llanymynech y dechreuodd Ian Woosnam chwarae golff. Roedd y peiriannydd diwydiannol Richard Roberts yn enedigol o'r pentref.
Saif Bryngaer Llanymynech tua tri-chwarter kilometr i'r gogledd-ddwyrain.
Mae Camlas Trefaldwyn yn pasio trwy'r pentref. Ar un adeg oedd yno gorsaf reilffordd. Oedd hon ar Reilffordd y Cambrian ac hefyd Rheilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat, yn ffurfio cyffwrdd rhwng y ddwy.[2] .