Y Gaeaf Arabaidd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Enw ar y don newydd o awdurdodaeth ac eithafiaeth Islamaidd[1] yn y byd Arabaidd yn sgil protestiadau a chwyldroadau'r Gwanwyn Arabaidd (2010–12)[2] yw'r Gaeaf Arabaidd.[3][4][5][6][7] Mae'r term yn crybwyll rhyfeloedd cartref, gwrthchwyldroadau, erledigaeth, a therfysgaeth ar draws gwledydd y Cynghrair Arabaidd yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, gan gynnwys Rhyfel Cartref Syria (ers 2011),[8][9] y gwrthryfel yn Irac yn sgil enciliad lluoedd Americanaidd (2011–13) a rhyfel y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac (2013–17),[10] yr argyfwng a gwrthdaro gwleidyddol yn yr Aifft (2011–14),[11] Rhyfel Cartref Cyntaf (2011) ac Ail Ryfel Cartref Libia (2014–20), a Rhyfel Cartref Iemen (ers 2014).[12]
Bathwyd y term "y Gaeaf Arabaidd" gan y gwyddonydd gwleidyddol Zhang Weiwei o Tsieina, mewn dadl gyda'r ysgolhaig Americanaidd Francis Fukuyama ym Mehefin 2011.[13][14]