Gogledd Macedonia
gwlad yn Ne-Dwyrain Ewrop From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop ar Orynys y Balcanau yw Gogledd Macedonia a arfer cael ei galw yn Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (neu Weriniaeth Macedonia). Newidiwyd yr enw yn swyddogol ar 12 Chwefror 2019 er mwyn cydymffurfio â Chytundeb Prespa drwy'r Cenhedloedd Unedig â Gwlad Groeg.[1]
Mae'n llenwi tua 38% o diriogaeth rhanbarth hanesyddol Macedonia. Mae'n rhannu ffiniau â Serbia i'r gogledd, Bwlgaria i'r dwyrain, Gwlad Groeg i'r de ac Albania i'r gorllwein. Tan 8 Medi 1991, roedd yn rhan o Iwgoslafia. Tynnodd allan o ffederasiwn Iwgoslafia yn ddiweddarach na Slofenia a Chroatia. Ei phrifddinas yw Skopje, dinas o tua 600,000 o drigolion. Prif ddinasoedd eraill y wlad yw Bitola, Prilep, Tetovo, Kumanovo, Ohrid, Veles, Štip a Strumica. Mae poblogaeth Macedonia yn gymysg iawn. Y grŵp mwyaf yw'r Macedoniaid (Slafonaidd) (1,300,000, tua 64% o'r boblogaeth), ond mae hefyd leiafrif sylweddol Albaniaid (500,000, tua 25% o'r boblogaeth) a lleiafrifoedd llai o Dwrciaid, Sipswn a Serbiaid. Mae'r berthynas rhwng y ddau grŵp mwyaf wedi bod yn anodd ond mae'n gwella ers 2001, pryd cytunodd llywodraeth Macedonia dderbyn llu cadw heddwch o'r Cenhedloedd Unedig ac i ddatganoli grym i'r lleiafrif Albaneg. Yr iaith swyddogol yw Macedoneg.
Mae Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, ac yn ymgeisydd i ddod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Derbyniwyd cais gweriniaeth i ymaelodu â NATO ar 6 Chwefror 2019.[2] fel rhan o'r Cytundeb drwy'r Cenhedloedd Unedig ar newid enw'r wladwriaeth i 'Gweriniaeth Gogledd Macedonia'.
Remove ads
Enw'r wlad
Ar hyn o bryd mae Macedonia (Macedoneg: Македонија/Makedonija) yn defnyddio dau enw. Enw swyddogol y wlad yw Gweriniaeth Macedonia (Macedoneg: Република Македониjа/Republika Makedonija). Nid oedd yr enw hwn yn dderbyniol gan lywodraeth Gwlad Groeg, gan fod gan wlad Groeg ranbarth o'r un enw. Felly mae Macedonia wedi cytuno i ddefnyddio'r enw Cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (Macedoneg: Поранешна Југословенска Република Македонија/Poranešna Jugoslovenska Republika Makedonija) fel enw dros dro yn y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, ac mewn mudiadau rhyngwladol eraill. Cytunwyd ar yw enw Gweriniaeth Gogledd Macedonia ar 12 Chwefror 2019.[1]
Remove ads
Oriel
- Eglwys Sant Ioan, Kaneo.
- Eglwys Gadeiriol Santes Sophia, Ohrid.
- Mynydd Baba.
- Širok Sokak, Bitola.
- Mynydd Korab.
- Myneddau Šar.
- Paentiadau yn Eglwys Sant Panteleimon (Nerezi).
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads