From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffurf ar lenyddiaeth ddidactig yw barddoniaeth wirebol neu ganu gwirebol sydd yn mynegi gwirebau neu foeswersi ar fydr. Modd o drosglwyddo doethineb a moesoldeb traddodiadol ydyw sydd yn tarddu o'r traddodiad llafar mewn sawl diwylliant. Ar ei ffurf symlaf mae'n cynnwys hen ddywediadau a phenillion bachog a ddygir i'r cof. Cyfansoddir hefyd barddoniaeth wirebol wreiddiol gan awduron unigol, a bu'r genre hon yn gyffredin yn llenyddiaeth Hen Roeg ac yn ystod yr Oesoedd Canol.
Un o'r esiamplau hynaf o farddoniaeth wirebol ydy'r tri llyfr barddonol sydd yn rhan o lyfrau'r Ketuvim yn y Beibl Hebraeg a'r Hen Destament yn y Beibl Cristnogol: Llyfr y Salmau, Llyfr y Diarhebion, a Llyfr Job.
Ymddengys gwirebau ym marddoniaeth ac yn rhyddiaith yr hen Roegiaid. Meistri'r genre hon oedd beirdd y 6g CC: Solon, Simonides, Theognis, a Phocylides. Cesglid eu gwirebau mewn blodeugerddi, a elwir gnomologia, er addysg yr ieuenctid.
Rhennir barddoniaeth wirebol Ewrop yn ddau gyfnod, sydd yn cyfateb i'r Oesoedd Canol Cynnar (o'r 7g i'r 11g) a'r Oesoedd Canol Uwch (o'r 12g i'r 14g). Blodeuai'r oes gyntaf yn llenyddiaethau brodorol gogledd-orllewin Ewrop, yn yr ieithoedd Gwyddeleg, Cymraeg, Hen Saesneg, a Norseg. Datblygodd y traddodiadau hyn y tu allan i ddylanwadau clasurol a Christnogol Eglwys Rufain. Cesglid ambell flodeugerdd wirebol yn yr iaith Ladin yn yr 11g, ac eithrio'r rheiny ni ymledodd yr arddull wirebol i wledydd Lladinaidd Ewrop nes y 12g. Yn yr ieithoedd Hen Ffrangeg, Profensaleg, Portiwgaleg, ac Eidaleg, a hefyd yn Saesneg Canol ac Uchel Almaeneg Canol, themâu'r byd meidraidd ar seiliau moeseg Gristnogol a rhinweddau'r clasuron oedd yn nodweddu barddoniaeth wirebol yr Oesoedd Canol Uwch.[1]
Canu gwirebol oedd un o'r ffurfiau cyffredin ar lenyddiaeth Gymraeg yn ystod oesoedd Canu'r Bwlch a Beirdd y Tywysogion. Un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus yw Englynion y Clyweit ('Englynion y Clywaid'), casgliad o englynion gwirebol a gyfansoddwyd tua diwedd y 12g neu ddechrau'r 13eg, yn ôl Ifor Williams. Enghraifft arall o ganu gwirebol yn y Gymraeg yw'r cyfresi o englynion 'Eiry mynydd' ('Eira mynydd'), e.e. y rhai a geir yn y gerdd 'Penyd Llywelyn a Gwrnerth':
Mae canu natur yn elfen amlwg yn y canu gwirebol; elfen amlwg arall yw'r elfen o brofiad dynol. Dyma ran o gyfres hir sy'n cynnwys y ddwy elfen trwy ei gilydd a adnabyddir fel 'Y Gnodau' am fod pob llinell bron yn dechrau gyda'r ffurf ferfol gnawd ('arferol yw'):
Ymddengys gwirebau yn aml ym marddoniaeth Hen Saesneg. Yn yr arwrgerdd Beowulf, gwasgerir gwirebau drwy draethiad y gerdd gan lunio moeswersi ar sail gweithgareddau'r arwr. Cynhwysir casgliadau o gerddi gwirebol Hen Saesneg yn Llyfr Caerwysg ac yn Sallwyr Tiberius.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.