From Wikipedia, the free encyclopedia
Ni ddefnyddwyd y teitl Brenin Cymru yn aml oherwydd yn anaml yr oedd Cymru, yn debyg iawn i Iwerddon, yn llwyddo i gael gradd o undod gwleidyddol fel un Lloegr neu'r Alban yn ystod yr Oesoedd Canol. Hawliodd nifer o frenhionedd rhanbarthol y teitl "Brenin Cymru", ond o dan arweinyddiath Gruffydd ap Llywelyn yn unig, o 1055 hyd 1063 yr oedd y wlad yn gwbl unedig.[1]
Cyn y teitl Brenin neu Dywysog Cymru, defnyddiwyd y teitl Brenin y Brythoniaid i ddisgrifio Brenin y Brythoniaid Celtaidd, hynafiaid y Cymry.[2] Mae fersiwn Brut y Tywysogion, Gwentian Chronicles of Caradog o Lancarfan, a ysgrifennwyd ddim cynharach na chanol yr 16eg ganrif yn rhestru Brenhinoedd y Brythoniaid lluosog fel "Brenin Cymru".[3][4][5]
Yn dilyn ymadawiad y llengoedd Rhufeinig o Gymru, roedd y wlad wedi ymrannu'n diriogaethau rhanedig, pob un â'i harweinwyr ei hun. Y person cyntaf y gwyddys amdano i'w alw ei hun yn frenin oedd Rhodri Mawr (c. 820–878) ac oherwydd ei fod yn hanu o Gymru cafodd ei alw'n Frenin Cymru, er nad oedd yn rheoli'r wlad i gyd. Serch hynny, unodd lawer o'r tir o dan ei allu, gan ddangos felly y gallai fod yn bosibl i Gymru fodoli fel endid gwleidyddol unedig.[6]
O deyrnasoedd llai Cymru daeth pedwar pŵer mawr i'r amlwg yn y pen draw: Powys, Gwynedd, Dyfed/Deheubarth, a Morgannwg. Gyda Chymru bellach yn datblygu i fod yn endid mwy cyfunol. Gwnaed hyn uniad Cymru yn bosibl i Gruffudd ap Llywelyn yng nghanol yr 11eg ganrif. Bu cynghreiriau â llinachau Eingl-Sacsonaidd a Llychlynwyr yn gymorth iddo uno'r wlad, ac fe hyd yn oed goncrodd rhannau o dir y Saeson. "Ym 1055 amsugnodd y Deheubarth hefyd, gan ddod yn Frenin Cymru i bob pwrpas".[7] Dywed John Davies mai Gruffydd oedd "yr unig frenin Cymreig y bu'r Cymry i gyd yn ddeiliaid iddo ... o tua 1057 hyd ei farwolaeth yn 1063, cydnabu'r Cymry i gyd frenhiniaeth Gruffudd ap Llywelyn. Am ryw saith mlynedd cwtar, bu Cymru'n un o dan reolwr Cymreig, gorchest na chyflawnwyd mohoni na chynt na chedyn."[8]
Cyfeiriwyd at Gruffydd ap Llywelyn fel Brenin Cymru neu Rex Walensium gan John o Gaerwrangon.[9] Ef oedd yr olaf o linach hir o brif lywodraethwyr ymhlith y Brythoniaid ynysig i ddal y teitl Brenin y Brythoniaid, ac o bosibl yr unig un i wir lywodraethu ar yr holl Frythoniaid annibynnol. Erbyn hyn, os nad ynghynt, Cymru oedd yr unig ran o Brydain oedd ar ôl o dan reolaeth y Brythoniaid.[8]
Roedd y defnydd brodorol o'r teitl "Tywysog Cymru" yn ymddangos yn amlach erbyn yr unfed ganrif ar ddeg fel ffurf "fodernaidd" neu ddiwygiedig ar hen frenhiniaeth uchel y Brythoniaid. Roedd y Cymry wedi bod yn Uchel Frenhinoedd y Brythoniaid yn wreiddiol hyd nes nad oedd yr honiad i fod yn uchel frenin Prydain Rufeinig ddiweddar yn realistig bellach ar ôl marwolaeth Cadwaladr yn 664. [10] Roedd gan Cadwaldr hefyd gysylltiad cryf â symbol Draig Goch Cymru.[11] [12]
Yn ôl Dr Sean Davies, “yn yr amgylchiadau anodd hyn, a chyda sylwedyddion allanol yn gwawdio statws brenhinoedd Cymru, mabwysiadodd uchelwyr brodorol uchelgeisiol y teitl nofel tywysog (Lladin: Princeps ), er mwyn eu gosod ar wahân i'w cyd-"frenhinoedd"." [13] Fodd bynnag, defnyddiwyd y teitl Brenin Cymru yn ddiweddarach gan o leiaf un rheolwr Cymreig arall, Owain Gwynedd (c. 1100–1170). "Yn ei ddau lythyr cyntaf at Louis, disgrifiodd Owain ei hun fel "brenin Cymru" a "brenin y Cymry".[14]
Mae un ffynhonnell yn disgrifio Llywelyn Fawr (Llywelyn ap Iorwerth) gyda'r teitl "Brenhin Cymrû Oll" yn 1212 ar ôl derbyn llŵ gan dywysogion Powys.[15] Er hyn, mae ffynhonnellau eraill o'r cyfnod yn dweud mai ffederaliaeth neu gonffederaliaeth o dywysogion Cymru a sefydlwyd, wedi'u harwain Llywelyn, yn hytrach na unbennaeth brenhinol.[16]
Daliwyd Tywysof olaf Cymru, Llywelyn ein Llyw Olaf yn ddiarwybod mewn cynnllwynfa, a lladdwyd ef ym 1282. Ar ddienyddiad ei frawd Dafydd ap Gruffydd yn 1283 ar orchymyn Brenin Edward I o Loegr, daeth annibyniaeth Cymru i ben. Byth ers hynny defnyddiwyd y teitl Tywysog Cymru gan frenhiniaeth Lloegr fel etifedd gorsedd Lloegr.[17] Disgrifiwyd y defnydd o'r teitl hwn gan frenin Seisnig fel "cywilyddiad" Cymru. [18]
Yn ystod y cyfnod 1400-1413, yn dilyn gwrthryfel yn erbyn rheolaeth Seisnig yng Nghymru, bu Tywysog brodorol Cymru, Owain Glyndŵr, a Thywysog Seisnig â'r un teitl (a ddaeth yn ddiweddarach yn Harri V Lloegr). Arweiniodd Tywysog brodorol Cymru, Owain Glyndŵr, luoedd Cymreig yn erbyn Tywysog Lloegr a rheolaeth Lloegr yng Nghymru.[19]
Mae'r canlynol yn rhestr o'r rhai a hawliodd y teitl Brenin neu Dywysog Cymru.[20] Mae rhai ffynonellau yn awgrymu taw Rhodri Mawr oedd sofran cyntaf Cymru, yn ogystal â'r cyntaf i uno'r rhan fwyaf o Gymru.[20][21] Tra bod llawer o arweinwyr gwahanol yng Nghymru wedi hawlio'r teitl "Brenin Cymru" ac wedi rheoli mwyafrif helaeth o dir Cymru, Gruffydd ap Llywelyn oedd yr unig frenin i reoli Cymru oll rhwng 1055 a 1063 yn ôl yr hanesydd John Davies.[22][20]
Depiction | Enw | Ty, Brenhiniaeth | Teitlau Cymreig | Teyrnasiaeth | Marwolaeth | Ffynhonnell |
---|---|---|---|---|---|---|
Cyn y teitl Brenin Cymru, defnyddiwyd y teitl Brenin y Brythoniaid | ||||||
Cynan Dindaethwy
(Cynan ap Rhodri) |
Gwynedd (ers 754) |
|
798–816 | Brut y Tywysogion[23]
Annalau Ulster Annales Cambriae | ||
Rhodri Mawr
(Rhodri ap Merfyn) |
Gwynedd, o 855 hefyd Powys, o 872 hefyd Seisyllwg | 843 | Brut y Tywysogion[23]
Annalau Ulster | |||
Cadell ap Rhodri |
|
877 | Brut y Tywysogion[23] | |||
Anarawd ap Rhodri |
|
900 | Brut y Tywysogion[23][25] | |||
Hywel Dda(Hywel ap Cadell) | Deheubarth (o 920), o 942 Gwynedd a Phowys |
|
942–949/50 | Brut y Tywysogion[23]
Annalau Ulster Annales Cambriae | ||
Aeddan ap Blegywryd |
|
1000 | Brut y Tywysogion[23] | |||
Llywelyn ap Seisyll | Gwynedd a Phowys; ac ers 1022 Deheubarth |
|
1023 | Brut y Tywysogion[23]
Annalau Ulster | ||
Gruffydd ap Llywelyn
1010–1063 |
Gwynedd a Phowys, ac ers 1057 gweddill Cymru |
|
Mae'r Cronicl Ulster Chronicl yn dweud y lladdwyd gan Cynan yn 1064. Laddodd Gruffydd ap Llywelyn dad Cynan, sef Iago yn 1039.[8] | John o Worcester[26]
Annalau Ulster | ||
Gruffudd ap Cynan
1055–1137 |
House of Aberffraw, Gwynedd (ers 1081) |
|
1137 | Bu farw yn 1137, yn 81–82 mlwydd oed. | Brut y Tywysogion | |
Owain Gwynedd
1100 – Tachwedd 1170 |
Gwynedd |
|
1146–1170 | Bu farw yn 1170, yn 69–70 mlwydd oed. | Brut y Tywysogion; [31] | |
Ar ôl y cyfnod hwn, defnyddiwyd y teitl Tywysog Cymru yn unig |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.