rhes o dros ugain o fryniau yng ngogledd-ddwyrain Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Bryniau Clwyd (neu Moelydd Clwyd; Saesneg: the Clwydian Range) yw'r gadwyn o tua 21 o fryniau yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymestyn o gyffiniau Llandegla-yn-Iâl a Nant y Garth yn y de i gyffiniau Prestatyn yn y gogledd, gyda Moel Famau (554 metr) yr uchaf ohonynt. Er nad ydynt yn arbennig o uchel, ceir golygfeydd braf o'u copaon hyd at fynyddoedd Eryri i'r gorllewin a thros Sir y Fflint i wastadeddau Swydd Gaer a chyffiniau Lerpwl i'r dwyrain. Gorwedd y rhan fwyaf o'r gadwyn yn Sir Ddinbych ond mae'r ffin â Sir y Fflint yn rhedeg ar hyd y copaon. I'r gorllewin i'r moelydd, ac yn gyfochrog iddynt gorwedd Dyffryn Clwyd. Mae'r rhan helaethaf wedi'i glustnodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ceir yma dystiolaeth o wareiddiad bywiog a oedd yn ffynnu yn yr Oes Efydd ac yn Oes y Cerrig, sydd yn ôl yr archeolegydd Ian Brown yn un o'r llefydd pwysicaf drwy orllewin Ewrop o dystiolaeth o fywyd dyn.[1]
I'r gorllewin yn yr Oesoedd Canol yr oedd Tywysogaeth Gwynedd a Mersia Anglo Sacsonaidd gelwid yr ardal rhwng Afon Conwy ac Afon Ddyfrdwy Y Berfeddwlad sef "y tir canol".
Fe'u gelwir yn Fryniau Clwyd am eu bod yn codi ar hyd ymyl ddwyreiniol Dyffryn Clwyd. Ar hyd yr oesoedd mae'r bryniau hyn wedi bod yn llinell amddiffyn naturiol i Ogledd Cymru. Mae'r gadwyn yn cynnwys nifer o fryngaerau o Oes yr Haearn, e.e. Foel Fenlli, Penycloddiau a Moel Arthur. Ceir nifer o garneddi cynhanesyddol ar y copaon hefyd. Mae Llwybr Clawdd Offa yn nadreddu o fryn i fryn.
Ceir nifer o fylchau'n croesi Bryniau Clwyd, gan gynnwys Allt Rhuallt a groesir gan yr A55, prif draffordd Gogledd Cymru, a'r hen ffordd Rufeinig o Gaer i Segontiwm cyn hynny. Mae bylchau hanesyddol eraill yn cynnwys Bwlch Pen Barras, sy'n cael ei groesi gan yr hen ffordd fynydd rhwng Tafarn-y-Gelyn a Rhuthun. Ceir dau lwybr troed o bopty Moel y Plas: Bwlch y Llyn i fyny at Lyn Gweryd, rhwng Moel y Plas a Moel y Waun a cheir Bwlch Ty'n y Mynydd rhwng Moel y Plas a Moel Llanfair.
Heddiw mae bron y cyfan o'r bryniau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Fe'i dynodwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar 24 Gorffennaf 1985. Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth genedlaethol i'r Bryniau fel ardal o dirwedd safon uchel. Mae'n un o 5 AHNE yng Nghymru. Mae'n ardal gyfoethog ei llên gwerin, gan gynnwys traddodiadau am y brenin Arthur.
Enw | Cyfesurynnau OS | Cyfesurynnau Daearyddol | |
---|---|---|---|
Bryn Alyn | SJ200587 | map | 53.119°N, 3.196°W |
Foel Fenlli | SJ164600 | map | 53.13°N, 3.25°W |
Mynydd yr Hob | SJ294568 | map | 53.103°N, 3.055°W |
Moel Arthur | SJ145660 | map | 53.184°N, 3.28°W |
Moel Famau | SJ161626 | map | 53.153°N, 3.256°W |
Moel Gyw | SJ171575 | map | 53.108°N, 3.239°W |
Moel Maenefa | SJ087744 | map | 53.258°N, 3.37°W |
Moel y Gaer (Rhosesmor) | SJ210690 | map | 53.212°N, 3.184°W |
Mynydd Rhyd Ddu | SJ054477 | map | 53.018°N, 3.411°W |
Mynydd y Cwm (Coed Cwm) | SJ073767 | map | 53.279°N, 3.391°W |
Penycloddiau | SJ127678 | map | 53.2°N, 3.308°W |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.