Rhuthun

tref a chymuned yn Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia

Rhuthun
Remove ads

Tref fach a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Rhuthun ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Hi yw tref sirol Sir Ddinbych, ac fe'i lleolir ar lan Afon Clwyd yn ne Dyffryn Clwyd. Mae'r A494 a'r A525 yn rhedeg drwyddi. Roedd â phoblogaeth o 5,218 yn 2001 (47% gwryw, 53% benyw, oed cyfartaledd 43.0).

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Mae Rhuthun wedi ei hefeillio â thref Brieg, Llydaw. Ceir dwy ysgol uwchradd: Ysgol Brynhyfryd a Ysgol Rhuthun (neu Ruthin School) sy'n ysgol breifat. Yr enw lleol ar yr ysgol breifat ydy "Ysgol y Capie Cochion".

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Becky Gittins (Llafur).[1][2]

Mae gan y dref hen gastell, a adeiladwyd tuag 1280, ond cafodd ei ddymchwel ar ôl y Rhyfel Cartref, ac fe'i ail-adeiladwyd fel gwesty mawr yn y 19g. Arferai fod yn brif dref Dogfeiling yn yr Oesoedd Canol Cynnar, a fu yn ddiweddarach yn un o ddau gwmwd a ffurfiai cantref Dyffryn Clwyd. Mae stryd yn y dref yn dal i gael ei galw'n "Dog Lane" (neu "Stryd Dogfael") ar ei ôl. Mae Maen Huail yn garreg o flaen Banc Barclays ac sy'n coffau torri pen brawd Gildas, yn ôl y chwedl.

Remove ads

Hanes

Dafydd ap Gruffudd (1238-83) a gododd y castell cyntaf i gael ei gofnodi ar y safle hwn, er bod tystiolaeth fod yma gastell cyn hyn. Cryfhawyd y castell yn helaeth gan Edward I o Loegr tua'r flwyddyn 1280. Enw gwreiddiol y Dref oedd 'Castell Coch yng Ngwern-fôr, oherwydd y tywodfaen coch yn waliau'r castell.

Ar 16 Medi 1400 llosgodd Owain Glyndŵr dref Rhuthun yn ulw, heblaw'r castell. Mae plac yn nodi'r ffaith hon ar fanc y Nat West, yr adeilad o flaen yr un presennol a losgwyd gyntaf gan Owain. Ar y plac mae dyfyniad o waith y prifardd Robin Llwyd ab Owain: 'Yn dy galon di... Glyn Dŵr!' Ymunodd llawer o drigolion Rhuthun gydag Owain gan ymosod wedyn ar Ddinbych, Rhuddlan ac yna Fflint.

Gall y cyhoedd hefyd ymweld â'r Hen Garchar Archifwyd 2009-02-21 yn y Peiriant Wayback a adferwyd yn ddiweddar. Dyma'r carchar a enwogwyd yn y gerdd:

Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn,
A'i wedd yn ddigon trist...

Yn ôl yr hanesydd Peter Smith, 'Tan y 18g roedd y rhan fwyaf o drefi Cymru yn frith o dai du a gwyn (megis Tŷ Nantclwyd y Dre). Bellach, dim ond Rhuthun sydd ar ôl. Dylid ei gwarchod yn ofalus fel cofeb genedlaethol, fel yr atgof olaf sydd gennym...' [3]. Capel hynaf y dref yw Pendref.

Thumb
Siop Rhonw, 1975: o gasgliad John Thomas (ffotograffydd), y Llyfrgell Genedlaethol
Remove ads

Nantclwyd y Dre

Agorwyd drysau Tŷ Nantclwyd (neu Nantclwyd y Dre) i'r cyhoedd ar droad y mileniwm, adeilad hynod, sy'n dyddio nôl i oddeutu 1445. Hwn yw'r tŷ trefol ffrâm bren hynaf yng Nghymru.[4][5]

Canolfan Grefft

Ceir Canolfan Grefftau yn Rhuthun, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae wedi ennill nifer o wobrau, yn enwedig am ei bensaernïaeth.

Pobol sy'n gysylltiedig â Rhuthun

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Remove ads

Codau QRpedia yn Rhuthun

Mae'r codau canlynol yn cysylltu'n uniongyrchol ag erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg:

Rhagor o wybodaeth Codau QRpedia yn Rhuthun / QRpedia codes in Ruthin, Building ...

Yn ychwanegol at y rhain mae 6 arall sy'n cysylltu gyda'r erthygl hon.

Remove ads

Cysylltiadau rhyngwladol

Mae Rhuthun wedi'i gefeillio â:

  • Bretagne Briec, Llydaw

Oriel

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads