ardal yng Nghaerdydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal a chymuned yn ninas Caerdydd yw Cathays. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,538.
Sefydlwyd Cathays ym 1875, ac mae llawer o'r tai yn dyddio o'r un cyfnod. Enw o’r Saesneg Canol yw, o’r ystyr “gwrychoedd neu gaeau lle ceir cathod gwyllt”, yn cyfateb i Saesneg Cyfoes cat = cath, a hay (gair hynafol neu dafodieithol) = gwrych; cae. Bu ar un adeg, yn Lloegr, heol o’r enw Cathay ym Mryste [1] , a hefyd yn Cheddar, Gwlad yr Haf, y mae heol o’r enw Cathay Lane. Nid oes unrhyw sail i esboniadau sydd yn dadansoddi’r enw fel enw Cymraeg, gyda’r gair “cad” fel elfen gyntaf.
Gan ei bod yn agos i Brifysgol Caerdydd, ceir cyfartaledd uchel o fyfyrwyr yno.
Mae Cathays yn cynnwys Parc Cathays, lle ceir pencadlys Senedd Cymru a nifer o adeiladau eraill sy'n perthyn i'r llywodraeth a'r brifysgol.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Cathays (pob oed) (18,002) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cathays) (1,882) | 10.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cathays) (6445) | 35.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Cathays) (1,642) | 33.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.