Awdur a bardd o Gymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Llenor, bardd a nofelydd o Gymru oedd Emyr Owen Humphreys (15 Ebrill 1919 – 30 Medi 2020)[1], ac un o nofelwyr mwyaf blaengar Cymru.[2]
Emyr Humphreys | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ebrill 1919 Trelawnyd |
Bu farw | 30 Medi 2020 Llanfair Pwllgwyngyll |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, nofelydd, darlithydd, cynhyrchydd teledu |
Cyflogwr | |
Plant | Dewi Humphreys, Siôn Humphreys |
Gwobr/au | Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Hawthornden, Llyfr y Flwyddyn, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Ganwyd Humphreys yn Nhrelawnyd[3] ger Prestatyn, Sir y Fflint, yn fab i William Humphreys, ysgolfeistr y pentref a sylfaenydd ac arweinydd Côr Meibion Trelawnyd[4] a Sarah Rosina (née Owen), ei wraig. Cefnder trwy waed a brawd iddo trwy fabwysiad oedd yr awdur Y Parchedig Ganon John Elwyn Humphreys OBE, Lisbon[5]; Roedd tad Emyr yn gyfyrder i'r Prifardd Hedd Wyn. Mynychodd Ysgol Uwchradd y Rhyl. Siaradwr Saesneg yn unig oedd Humphreys ond dechreuodd ddysgu'r Gymraeg wedi i ysgol fomio Penyberth yn Llŷn gael ei llosgi ym 1936 ac ysgogwyd ei ddiddordeb yn yr iaith.[6][7][8]
Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle bu'n cyd-letya gyda'r cyfreithiwr a'r awdur, Emyr Currie-Jones.
Ym 1946 priododd Elinor Myfanwy Jones yng Nghaernarfon a bu iddynt tri mab ac un ferch - Sion, Mair, Robin a Dewi. Mae Dewi, ei fab hynaf, yn gyfarwyddwr teledu a fu'n gyfrifol am raglenni megis The Vicar of Dibley ac Absolutely Fabulous[9]. Mae ei ail fab Siôn yn gyfarwyddwr ffilm a theledu a fu'n cyfarwyddo cyfresi dramâu megis Pengelli a Teulu yn ogystal â sawl ffilm Gymraeg nodedig. Bu ei wyr Eitan ap Dewi yn chwaraewr rygbi rhyngwladol yn chware yn safle’r mewnwr i dîm Israel[10] .
Aeth ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[6] Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939.[11] Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r BBC ac yn ddiweddarach daeth yn ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.[12] Carcharwyd Humphreys am wrthod prynu trwydded deledu yn ystod y 1970au mewn protest yn erbyn diffyg lle a statws i'r Gymraeg ar y teledu yng Nghymru.[7][8]
Daeth yn llenor llawn amser ym 1972.[8] Yn ystod ei yrfa lenyddol, cyhoeddodd dros ugain o nofelau, gan gynnwys clasuron megis A Toy Epic (1958), Outside the House of Baal (1965), a The Land of the Living, a chyfres epic o saith nofel yn adrodd hanes gwleidydol a diwylliannol Cymru yn yr 20fed ganrif: Flesh and Blood, The Best of Friends, Salt of the Earth, An Absolute Hero, Open Secrets, National Winner a Bonds of Attachment. Mae hefyd wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y llwyfan a theledu, straeon byrion, The Taliesin Tradition (hanes diwylliannol Cymru), a chyhoedodd casgliad o'i farddoniaeth, Collected Poems, ym 1999.[12]
Ymysg ei anrhydeddau, gwobrwywyd y Wobr Somerset Maugham ym 1958 ar gyfer Hear and Forgive, a'r Wobr Hawthornden ar gyfer A Toy Epic yr un flwyddyn.[6] Enillodd Humphreys wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1992 ac 1999.[12][13] Yn 2004, enillodd Humphreys wobr cyntaf Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng Nghymru.[14] Roedd Humphreys yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru [15]ac o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth[12] ac yn un o noddwyr Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru.[16]
Disgrifwyd ef gan R. S. Thomas fel "the supreme interpreter of Welsh life".[12]
Roedd yn byw yn Llanfairpwll, Ynys Môn lle bu farw yn 101 mlwydd oed.[6][8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.