plasdy hynafol yng Nghynwyd, ger Corwen. From Wikipedia, the free encyclopedia
Plasty hynafol yw Gwerclas, a saif ar lan afon Dyfrdwy, tua cilometr i'r gorllewin o Eglwys Llangar a chilometr i'r gogledd o bentref Cynwyd, ger Corwen.[1] Arferai sefyll yn Sir Feirionnydd, yna Clwyd cyn newid i ffiniau presennol Sir Ddinbych. Mae'n blasdy bychan tair llawr gyda dwy aden iddo sy'n dod ymlaen o'r ffrynt ac fe'i cofrestrwyd yn Radd II* ar 6 Ebrill 1952 gan Cadw (Rhif cofrestriad: 662). Cafodd ei afdeiladu mewn dull clasurol yn y 1767 ar seiliau adeilad tipyn hynach o Gyfnod y Tuduriaid. Ers 1767 ychydig iawn o newidiadau sydd wedi digwydd i'r plasty ar wahân i ambell fanylun e.e. newidiwyd llechi'r to yn niwedd yr 20g am deils.
Ymhlith y rhannau nodedig mae: wyneb bric y tŷ, sy'n dyddio i'r 18g ar waelod cadarn o garreg, ffenestri fenisiaidd ar y llawr cyntaf, cyntedd sy'n dyddio nôl i 1767 gydag arfbais, drws ffrynt gyda cholfnau ionig a grisiau o'r 18g. Mae dwy o ffenestri'r cefn o'r 17g.[2]
Ceir claddfa gron 14 metr (60 tr) o ddiametr, gyda 'phalmant' ar yr ochr ddwyreiniol; saif yn yr ardd, ger glan afon gerllaw'r plasty (cyfeirnod grid: SJ05394213).[3] Ni chafwyd hyd yma (2016) unrhyw archwiliad archaeolegol ond credir yn gyffredinol mai carnedd neu Siambr gladdu hir ydyw o'r Oes Efydd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.