![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/71/Languages_of_Israel.jpeg/640px-Languages_of_Israel.jpeg&w=640&q=50)
Ieithoedd Israel
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlad amlieithog yw Israel, o ganlyniad i wreiddiau amrywiol yr Israeliaid, pobloedd gynhenid y wlad a'r niferoedd uchel o fewnfudwyr ers dechrau'r 20g. Hebraeg yw iaith ddyddiol yr Israeliaid Iddewig, sef tua 80% o'r boblogaeth. Fel rheol hon yw'r iaith gymunedol ond nid o reidrwydd iaith yr aelwyd gan deuluoedd o fewnfudwyr. Er bod nifer o fewnfudwyr yn parhau i siarad eu hiaith gyntaf, dysgir yr Hebraeg gan y mwyafrif helaeth o'r boblogaeth Iddewig gan roi ffordd o uno'r gymdeithas. Arabeg yw iaith frodorol yr Israeliaid Arabaidd, sy'n cyfrif am ryw 20% o ddinasyddion y wlad. Mae'r mwyafrif ohonynt yn byw mewn cymunedau Arabaidd ac yn defnyddio gwasanaethau llywodraethol drwy gyfrwng yr Arabeg, ac nid ydynt i gyd yn dysgu'r Hebraeg yn rhugl. Arabeg Safonol yw'r ffurf swyddogol, a siaredir y tafodieithoedd Arabeg y Lefant, Arabeg y Bedowiniaid, a'r Iddew-Arabeg.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/71/Languages_of_Israel.jpeg/640px-Languages_of_Israel.jpeg)
Yr Hebraeg a'r Arabeg oedd ieithoedd swyddogol Israel ers 1923 yng nghyfnod y Mandad Prydeinig ym Mhalesteina. Roedd Saesneg hefyd yn iaith swyddogol hyd sefydlu'r wladwriaeth ym 1948. Yn 2018, cafodd Arabeg ei hisraddio gan ddeddf sydd yn dynodi Hebraeg yn "iaith y wladwriaeth" ac yn rhoi "statws arbennig" i Arabeg.[1] Dysgir Hebraeg, Arabeg a Saesneg gan blant ysgol yn Israel. Mae nifer o arwyddion swyddogol yn Hebraeg, Arabeg a Saesneg. Er y statws cyfartal rhwng dwy brif iaith y wlad, mae sefyllfa ieithyddol y maes cyhoeddus yn anghyson ac yn adlewyrchu'r anghydfod rhwng y cymunedau Iddewig ac Arabaidd.[2] Er enghraifft, mae gwleidyddion adain-dde sy'n bwriadu gwneud Hebraeg yn unig iaith swyddogol Israel.[3][4][5] Prin yw'r cwmnïau a sefydliadau preifat sy'n dewis defnyddio'r Arabeg,[6][7] ac nid yw pob arwydd ffordd yn ddwyieithog neu gâi'r enwau Arabeg eu Hebreiddio.[8][9][10] Mae'n rhaid i fyfyrwyr fedru'r Hebraeg er mwyn mynychu'r brifysgol yn Israel.
Yn ogystal â'r ddwy iaith swyddogol, mae rhan sylweddol o'r boblogaeth yn medru'r Saesneg, a lleiafrif sy'n rhugl yn y Rwseg. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd, ymfudodd dros un miliwn o Iddewon o Rwsia a chyn-weriniaethau Sofietaidd eraill i Israel. Mae nifer o arwyddion a dogfennau swyddogol ar gael yn y Rwseg. Siaredir yr Amhareg gan fewnfudwyr o Ethiopia. Parheir rhai cymunedau i ddefnyddio ieithoedd Iddewig megis Iddew-Sbaeneg (Ladino), Iddew-Almaeneg, Iddew-Tateg ac Iddew-Georgeg. Ymhlith yr ieithoedd eraill mae Almaeneg, Sbaeneg, Rwmaneg, Pwyleg, Hwngareg, a'r Adyghe (Circaseg orllewinol).[11][12] Siaredir Ffrangeg gan nifer o Israeliaid o dras Rwmanaidd, Morocaidd, Algeraidd, a Thiwnisaidd.
Iaith Arwyddion Israel, sy'n seiliedig ar Iaith Arwyddion yr Almaen, yw'r brif iaith arwyddion. Ceir hefyd ieithoedd arwyddion lleol, hynny yw ieithoedd mewn cymunedau a chanddynt niferoedd uchel o drigolion sy'n fyddar: Iaith Arwydd y Bedwyn Al-Sayyid, Iaith Arwydd Kafr Qasem, ac Iaith Arwydd Ghardaia (sy'n hanu o ddinas Ghardaia yn Algeria).