From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeminist a swffraget o'r Alban oedd Jane Esdon Brailsford (3 Ebrill 1874 - 9 Ebrill 1937) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a swffragét.
Cafodd ei geni yn Elderslie (Gaeleg yr Alban: Ach na Feàrna), Swydd Renfrew ar 3 Ebrill 1874; bu farw yn Chiswick. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Glasgow, Coleg Somerville a Choleg Rhydychen. Bu'n briod i Henry Noel Brailsford.[1][2]
Ar 24 Medi, sylweddolwyd fod y llywodraeth wedi dechrau gorfodi bwydo'r menywod a oedd ar streic newyn. Ymddiswyddodd gŵr Jane o'r Daily News mewn protest ac ar 9 Hydref paratôdd y swffragetiaid i brotestio yn erbyn Lloyd George, ar ei ymweliad â Newcastle. Ar 8 Hydref arestiwyd hi am fod a bwyell yn ei meddiant. Cafodd ei rhyddhau ar ôl tri diwrnod yn unig yn y carchar.
Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.