Ffeminist a swffragét o'r Alban oedd Jessie C. Methven (1854 - 15 Chwefror 1917) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.
Fe'i ganed yng Nghaeredin yn 1854. Bu'n ysgrifennydd anrhydeddus Cymdeithas Genedlaethol Caeredin dros Rhoi'r Bleidlais i Ferched (the Edinburgh National Society for Women's Suffrage), o ganol y 1890au hyd 1906. Yn dilyn hynny, ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, grŵp mwy milwriaethus. Disgrifiai ei hun fel "sosialydd annibynnol". [1]
Dyddiau cynnar
Rhieni Jessie Cunningham Methven oedd Janet Allan a Thomas Methven. Roedd y teulu'n byw yn 25 Great King Street, Caeredin lle bu hithau fyw, drwy gydol ei bywyd gyda'i chwiorydd Helen a Minnie a'i brawd Henry, masnachwr hadau. Mae cyfrifiad 1901 yn ei chofnodi fel "byw ar ei hincwm ei hun".[2] Yn 1885 cynhaliodd ei mam "drawing room meeting" o Gymdeithas Genedlaethol y Merched ar gyfer rhoi'r Bleidlais i Fenywod, ac etholwyd Methven yn ysgrifennydd i'r gymdeithas.[3]
Ymgyrchodd Methven dros rhoi'r bleidlais i fenywod (neu 'etholfraint') am flynyddoedd lawer ac fe'i disgrifiwyd fel “gweithiwr gweithgar iawn dros yr achos”.[4] Fel ysgrifennydd anrhydeddus Cymdeithas Genedlaethol Caeredin dros Rhoi'r Bleidlais i Ferched, roedd yn awdur toreithiog i bapurau newydd a chynghorau lleol, ac ysgrifennai i godi ymwybyddiaeth y pwysigrwydd o roi'r bleidlais i fenywod. Cododd arian, trefnodd ddeisebau a chymerodd ran mewn protestiadau a chyfarfodydd cyhoeddus heddychlon fel swffragét.
Ond cyn hir a hwyr, dadrithiodd gyda'r dull hwn, ac ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched ym 1906. Cymerodd ran mewn protestiadau swffragetaidd ac fe'i harestiwyd yn Llundain ar 22 Tachwedd 1911,[5] pan roedd Methven yn un o 223 o brotestwyr y WSPU yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd wedi teithio gyda phum menyw arall o Gaeredin (Elizabeth ac Agnes Thomson, Edith Hudson, Alice Shipley a Mrs Grieve). Cafodd ddedfryd o 10 diwrnod o garchar a dirwy o ddeg swllt (10/-) am dorri ffenestri.[6]
Aelodaeth
Bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Caeredin dros Hawliau Merched i Bleidleisio, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.