ieithydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgolhaig Cymraeg a Cheltaidd oedd John Rhŷs (ei orgraff arferol ei hun) neu John Rhys (21 Mehefin 1840 - 17 Rhagfyr 1915), a aned ger Ponterwyd, Ceredigion. Roedd yn un o'r ysgolheigion Celtaidd a golygyddion testunau Cymraeg Canol gorau ei ddydd.
John Rhŷs | |
---|---|
John Rhŷs, tua 1890 | |
Ganwyd | 21 Mehefin 1840 Ponterwyd |
Bu farw | 17 Rhagfyr 1915 Coleg yr Iesu |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, ysgrifennwr, ieithegydd |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Jesus Professor of Celtic |
Cyflogwr | |
Priod | Elizabeth Rhŷs |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, Marchog Faglor |
Graddiodd Rhŷs ym Mhrifysgol Rhydychen gydag anrhydedd yn y Clasuron yn 1869. Ar ôl treulio cyfnod o astudio tramor a gweithio fel arolygydd ysgol yn yr hen Sir y Fflint fe'i penodwyd yn Athro Celteg cyntaf ei hen brifysgol yn 1877. Yn 1895 daeth yn brifathro Coleg Iesu yno. Chwaraeodd ran bwysig ym mywyd Cymreig y brifysgol gan gynnwys bod yn llywydd cyntaf Cymdeithas Dafydd ap Gwilym (1886).
Daeth i adnabod Syr John Morris-Jones yn Rhydychen a gweithiasant gyda'i gilydd ar olygiad o Lyfr yr Ancr. Roedd yn ieithydd penigamp; ei gyfrol Lectures on Welsh Philology (1877) oedd y gwaith cyntaf i ddefnyddio dulliau newydd ieithyddiaeth gymharol i astudio hanes yr iaith Gymraeg. Gweithiodd ar y cyd â John Gwenogvryn Evans i olygu cyfres bwysig o destunau Cymraeg Canol, gan gynnwys Llyfr Coch Hergest a Llyfr Llandaf.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar hanes traddodiadol, llên gwerin a mytholeg Geltaidd yn ogystal, gan gynnwys y cyfrolau pwysig Celtic Britain (1882) a Celtic Folkore, Welsh and Manx (1901). Er gwaethaf eu gwendidau - beiau'r oes yn bennaf - mae'r cyfrolau hyn yn gerrig milltir pwysig yn hanes ysgolheictod Celtaidd.
Gyda John Morris-Jones:
Gyda J. Gwenogvryn Evans:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.