From Wikipedia, the free encyclopedia
Diwinydd Protestannaidd a phregethwr o'r Almaen oedd Kaspar Schwenckfeld von Ossig (1489 – 10 Rhagfyr 1561) a fu'n arweinydd y Diwygiad Protestannaidd yn Silesia.
Kaspar Schwenckfeld | |
---|---|
Engrafiad copr o Kaspar Schwenckfeld gan Theodor de Bry | |
Ffugenw | Rufus Sarmentarius, Kaspar Gryseneggerus, Kaspar Greysenecker |
Ganwyd | 1489 Osiek, Lubin County, Osiek, Silesian Voivodeship |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1561 Ulm |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, athronydd, diwygiwr Protestannaidd, cyfrinydd, ysgrifennwr |
Mudiad | Spiritualism (theology) |
Ganed ef i deulu o'r bendefigaeth yn Ossig (bellach Osiek yng Ngwlad Pwyl), Silesia Isaf. Astudiodd ym mhrifysgolion Cwlen a Frankfurt an der Oder. Gwasanaethodd yn gynghorydd i sawl llys yn y cyfnod o 1511 i 1523. Ym 1518 cafodd ei ddeffroad ysbrydol, ac ym 1525 aeth i Wittenberg i gyflwyno ei farn am yr Ewcharist i Martin Luther. Bu anghytundeb rhyngddynt, ac felly dychwelodd Schwenckfeld i Silesia i ymddatblygu ei ddiwinyddiaeth.
Trwy ei ddull diwygiadol, a elwir y Ffordd Ganol, ceisiodd Schwenckfeld arloesi ffordd amgen rhwng athrawiaethau'r Eglwys Gatholig a'r Lwtheriaid. gan ganolbwyntio ar Iesu Grist yn hytrach na symbolau crefyddol allanol. Cyhoeddodd ei safbwyntiau gwrth-Gatholig a gwrth-Lwtheraidd, a châi ei ddiswyddo gan Ffredrig II, Dug Liegnitz, am hynny. Aeth i Strasbwrg ym 1529 ac yno cyfarfu â Sebastian Franck, Melchior Hofmann, Michael Servetus, Paracelsus, a Huldrych Zwingli. Zwingli a gyhoeddodd weithiau Schwenckfeld ar y sagrafennau, ond ni fyddai'r ddau yn cymodi eu gwahaniaethau diwinyddol ynglŷn â'r Ewcharist, ac felly ni châi Schwenckfeld ei wahodd i Gynulliad Marburg ym 1529.[1]
Aeth Schwenckfeld i'r synod yn Strasbwrg ym 1533 i amddiffyn ei syniadau, a rhyddid crefyddol yn gyffredinol, yn erbyn y diwygiwr Martin Bucer. Ni lwyddodd i ddwyn perswâd ar y Protestaniaid uniongred i ymarfer goddefiad crefyddol yn Strasbwrg, ac felly ymsefydlodd Schwenckfeld yn Ulm. Fe'i alltudiwyd o'r ddinas ym 1539 gan y Lwtheriaid, a oedd yn gwrthwynebu ei bwyslais ar ddwyfoli natur ddynol Crist. Cyhoeddodd draethawd yn amddiffyn ei athrawiaeth dan y teitl Grosse Confession ym 1540. Yn yr apoleg honno pwysleisir y gwahaniaethau rhwng y Lwtheriaid a'r Zwinglïaid ynglŷn â'r Ewcharist, mewn cyfnod pan oedd y tywysogion Protestannaidd yn ceisio ailgymodi'r ddwy garfan. Am hynny, cyhoeddwyd anathema yn ei erbyn gan Gynghrair Schmalkalden a gwaharddwyd ei lyfrau mewn tiroedd y Protestaniaid. Aeth Schwenckfeld ar ffo am weddill ei oes, a bu'n rhaid iddo ysgrifennu ei bamffledi a'i lyfrau yn ddienw. Bu farw yn Ulm tua 72 oed.
Ffurfiwyd mân-eglwysi a brawdoliaethau gan ei ddilynwyr, a buont yn dal eu tir yn ne'r Almaen hyd at y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Goroesodd niferoedd bach ohonynt, a sefydlwyd Eglwys Schwenckfeld yn Unol Daleithiau America ym 1909.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.