From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd o'r Unol Daleithiau yn yr iaith Saesneg oedd Lawrence Monsanto Ferlinghetti (24 Mawrth 1919 – 22 Chwefror 2021) a oedd yn un o sefydlwyr cenhedlaeth y Bitniciaid yn San Francisco yn y 1950au.[1]
Lawrence Ferlinghetti | |
---|---|
Lawrence Ferlinghetti yn siop lyfrau Grolier yn Cambridge, Massachusetts, ym 1965. | |
Ganwyd | Lawrence Monsanto Ferling 24 Mawrth 1919 Yonkers |
Bu farw | 22 Chwefror 2021 o clefyd interstitaidd yr ysgyfaint San Francisco |
Man preswyl | San Francisco, Paris |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | swyddog milwrol, bardd, cyfieithydd, cyhoeddwr, arlunydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd heddwch, ysgrifennwr, activist shareholder, dramodydd, llyfrwerthwr, gweithredydd gwleidyddol |
Cyflogwr | |
Mudiad | Cenhedlaeth y Bitniciaid |
Gwobr/au | Gwobr Farddoniaeth Ryngwladol Janus Pannonius, Literarian Award for Outstanding Service to the American Literary Community, James Madison Freedom of Information Award, Eagle Scout, Medal Robert Frost, Gwobr Cyflawniad Oes Ivan Sandrof, Commandeur des Arts et des Lettres |
Ganed yn Yonkers yn nhalaith Efrog Newydd, a chafodd ei fagu yn Ffrainc a Long Island. Gwasanaethodd yn swyddog yn Llynges yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol Gogledd Carolina, ei radd meistr o Brifysgol Columbia, a'i ddoethuriaeth o'r Sorbonne ym 1951.
Ymsefydlodd Ferlinghetti yn San Francisco, Califfornia, ym 1951, ac ym 1953 agorodd ei siop lyfrau, City Lights, a fyddai'n ganolfan i gylch avant-garde y ddinas. Dan enw'r wasg City Lights Books, cyhoeddodd nifer o awduron cenhedlaeth y Bitniciaid, gan gynnwys Allen Ginsberg, Jack Kerouac, Gregory Corso, Denise Levertov, William Burroughs, a William Carlos Williams.
Cyhoeddodd ei nofel hunangofiannol, Little Boy (2019), adeg ei ganmlwyddiant. Bu farw yn San Francisco yn 101 oed.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.