From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofel epistolaidd Ffrangeg enwog a ysfrifenwyd yn 1782 gan y llenor Ffrengig Pierre Choderlos de Laclos (1741–1803) yw Les Liaisons dangereuses. Ystyrir y nofel, sy'n adrodd hanes yr ymryson gwyriedig a nwydus rhwng dau libertin uchelwrol yng nghyfnod Yr Oleuedigaeth Ffrengig (le siècle des Lumières), yn un o weithiau mawr llenyddiaeth Ffrangeg.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol, Nofel epistolaidd |
---|---|
Awdur | Pierre Choderlos de Laclos |
Gwlad | Ffrainc |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 23 Mawrth 1782 |
Genre | Nofel epistolaidd, libertine novel, erotica, ffuglen, naratif, drama, dychan, found manuscript |
Cymeriadau | Marquise de Merteuil, Vicomte de Valmont, Cécile de Volanges, Madame de Tourvel, Danceny |
Prif bwnc | trosedd, rhinwedd, moesoldeb, athroniaeth, cariad, feeling, gohebiaith, rhyngweithiad, hapusrwydd, libertinism, cymdeithas, grym, vanity, persbectif, Aristocratiaeth, person bonheddig, Teyrnas Ffrainc, social dynamics, seduction, Llygredigaeth |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Paris, cefn gwlad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fframwaith y nofel yw cyfres o lythyrau rhwng y ddau brif gymeriad, yr Ardalyddes de Merteuil (Madame de Merteuil) a'r Is-iarll de Valmont (Valmont), ac eraill, sy'n disgrifio eu hymdrechion i hudo merch ifanc iawn - Cécile de Volanges - i golli ei morwyndod, a hynny er mwyn ennill bet.
Achosodd y nofel gryn sgandal ar y pryd a chafodd ei chamddeall a'i chomdemnio fel ymosodiad ar foes cymdeithas. Ond amddiffynnodd Laclos y llyfr. Camfernir y nofel gan rai hyd heddiw am fod yn wrth-fenywaidd ond ystyriai Laclos ei fod yn gweithio o blaid benywod mewn cymdeithas ac yn ceisio dyrchafu moes ei oes trwy ddulliau llenyddol arloesol. Yn ei eiriau ei hun,
Ceir sawl ffilm sy'n seiliedig ar y nofel, yn cynnwys:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.