![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/Llanymawddwy_-_2007-08-27.jpg/640px-Llanymawddwy_-_2007-08-27.jpg&w=640&q=50)
Llanymawddwy
pentref yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Llanymawddwy ( ynganiad ) yn bentref yng Ngwynedd sydd ychydig i'r gogledd o bentref mwy Dinas Mawddwy, ar y ffordd fechan sy'n cysylltu Dinas Mawddwy a Llanuwchllyn tros Fwlch y Groes. Mae Afon Dyfi, sy'n tarddu ar Aran Fawddwy gerllaw, yn llifo heibio'r pentref. Daw'r enw o gwmwd Mawddwy. Yr adeilad mwyaf nodedig yw Eglwys Sant Tydecho, lle mae traddodiad canu'r Plygain yn parhau.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.75°N 3.63°W ![]() |
Cod OS | SH902189 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Cau
Yn Llanymawddwy y ganed Alfred George Edwards, a ddaeth yn Archesgob cyntaf Cymru, a bu'r llenor a geiriadurwr Daniel Silvan Evans yn rheithor yma.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/12/Llanymawddwy_Church_-_2007-08-27.jpg/640px-Llanymawddwy_Church_-_2007-08-27.jpg)
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]