sant Cymreig oedd Tydecho (fl. 6g). From Wikipedia, the free encyclopedia
Sant Cymreig oedd Tydecho (fl. 6g). Roedd yn nawddsant cwmwd Mawddwy, (Teyrnas Powys gynt; Gwynedd heddiw). Dethlir ei wylmabsant ar 17 Rhagfyr.
Tydecho | |
---|---|
Ganwyd | 6 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | meudwy, arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 17 Rhagfyr |
Tad | Annun Ddu |
Ychydig iawn a wyddom amdano. Ein prif ffynhonnell yw'r cywydd iddo gan y brudiwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn, Mawddwy. Dywed y bardd i'r sant ymsefydlu yng nghyffiniau Mathafarn a chodi cell yno. Cofnodir y gerdd y traddodiad fod y brenin Maelgwn Gwynedd wedi aflonyddu arno a'i ddilynwyr, ond gan fod hyn yn wir am hanes rhai o'r seintiau cynnar eraill hefyd ni ellir rhoi gormod o bwyslais arno.[1]
Yn ôl traddodiad, roedd yn fab i Annwn Ddu ab Emyr Llydaw. Cyfeirir ato hefyd ym Muchedd Padarn, ond heb ychwanegu llawer at y wybodaeth amdano. Ymddengys, yn ôl dosbarthiad yr eglwysi a gysegrir iddo, fod y sant a'i gymdeithion wedi cyrraedd arfordir Meirionnydd dros y môr ac iddynt dreiddio i'r tir ac ymsefydlu yn ardal Mawddwy.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.