![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/dc/Village_street_-_geograph.org.uk_-_730753.jpg/640px-Village_street_-_geograph.org.uk_-_730753.jpg&w=640&q=50)
Llysfaen
pentref a chymuned ar arfordir gogledd Cymru ym mwrdeisdref sirol Conwy / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Conwy, Cymru, yw Llysfaen.[1][2] Saif ar arfordir gogledd y sir, hanner milltir o'r môr tua hanner ffordd rhwng Abergele i'r dwyrain a Bae Colwyn i'r gorllewin. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Hen Golwyn, Llanddulas, Dolwen a Betws-yn-Rhos. I'r dwyrain ceir Mynydd Marian. Mae tua 2,680 o bobl yn byw yno ( Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback. 2005). Mae'r gymuned yn cynnwys stad Peulwys.
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,743 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 566.82 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.283°N 3.666°W ![]() |
Cod SYG | W04000132 ![]() |
Cod OS | SH887771 ![]() |
Cod post | LL29 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
- Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at bentref ar arfordir gogledd Cymru; am yr ardal ag enw tebyg yng Nghaerdydd, gweler Llys-faen.
Heddiw mae'r pentref yn rhan o sir Conwy, ond hyd 1923 bu'n alldir o'r hen Sir Gaernarfon wedi ei amgylchu'n gyfangwbl gan yr hen Sir Ddinbych; bu'n rhan o sir Clwyd o 1974 hyd 1996. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gantref Rhos. Mae eglwys Sant Cynfran yn dyddio i'r Oesoedd Canol; yn ôl traddodiad lleol fe'i sefydlwyd gan y sant yn y flwyddyn 777.
Am gyfnod hir bu llawer o bobl y pentref yn gweithio yn chwareli calchfaen cyfagos Llysfaen a Llanddulas. Cludai llongau arfordirol y calchfaen i Lerpwl neu Fleetwood o Sieti Rayne ym Mae Llanddulas.
Ceir ysgol gynradd leol, Ysgol Cynfran, siop SPAR, neuad y pentref, a thri pharc.