Dinas yng ngorllewin canolbarth Tiwnisia yw Makthar (Arabeg: مَكْثَر), hefyd Maktar neu Mactar, sy'n gorwedd 900 metr i fyny ar lwyfandir ar ymyl ogleddol mynyddoedd Dorsal Tiwnisia yn nhalaith Siliana. Poblogaeth: 12,942 (2004).[1]
Fe'i lleolir ar groesffordd y priffyrdd GP4 a GP12, 150 km i'r de-orllewin o Diwnis a 70 km i'r de-orllewin o El Kef. Gorwedd Siliana, prifddinas y dalaith o'r un enw, 35 km i'r gogledd ar y briffordd GP4.
Mae Makthar yn adnabyddus yn bennaf am safle archaeolegol dinas hynafol Mactaris. Bu'r ddinas honno ym meddiant Massinissa, brenin Numidia ac arosodd yn nwylo'r Nwmidiaid tan ddechrau'r 1fed ganrif OC pan gafodd ei gipio gan yr Ymerodraeth Rufeinig. Parhaodd y ddinas, er yn llai, trwy gyfnodau rheolaeth y Fandaliaid a'r Ymerodraeth Fysantaidd hyd yr 11g. Ceir amgueddfa fechan ar y safle.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.