From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Eidal ydy Marianna Madia (ganwyd Maria Anna, 5 Medi 1980).[1] Roedd yn Weinidog dros Weinyddiaeth Gyhoeddus a Symleiddio'r Eidal o 22 Chwefror 2014 hyd 1 Mehefin 2018 yng nghabined Matteo Renzi.
Marianna Madia | |
---|---|
Ganwyd | 5 Medi 1980 Rhufain |
Dinasyddiaeth | yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Italian Minister of Public Administration, Italian Minister of Public Administration, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ddemocrataidd |
Gwefan | http://mariannamadia.it |
Fe'i ganwyd yn Rhufain, ble roedd ei thad, Stefano Madia, yn actor a newyddiadurwr. Ym Mehefin 2013 priododd Mario Gianani, cynhyrchydd ffilm.
Astudiodd Marianna yn Lycée Français Chateaubriand yn Rhufain a graddiodd yn y Gwyddorau Gwleidyddol gan arbenigo yn y pwnc yn y Sefydliad IMT Astudiaethau Uwch yn Lucca[2].
Ym Mehefin 2013 priododd y cynhyrchydd teledu Mario Gianani,[3] ac mae ganddynt ddau blentyn: Francesco a Marggherita, a aned 8 Ebrill 2014[4].
Mae hi hefyd yn aelod o Blaid Ddemocrataidd yr Eidal[5] ac yn aelod o Siambr y Dirprwyon.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.