From Wikipedia, the free encyclopedia
Mynydd yng ngogledd-orllewin Anatolia yn Nhwrci yw Mynydd Ida, Twrceg Kazdağı. Saif yn nhalaith Balıkesir gerllaw Gwlff Edremit, ac i'r de-ddwyrain a adfeilion Caerdroea. Mae'n 1774 m (5,820 troedfedd) o uchder.
Roedd gan y mynydd le amlwg ym mytholeg Roeg. Enwyd y mynydd ar ôl y nymph Idaea, gwraig y duw afon Scamander, a mam Teucer, brenin Caerdroea. Tardda afon Scamander ar lethrau Mynydd Ida. Addolid Cybele ar y mynydd, a galwai'r Rhufeiniaid hi yn Idaea Mater. Dywedir i'r casgliad cynharaf o Lyfrau'r Sibyl gael ei ysgrifennu yn Gergis ar fynydd Ida, yng nghyfnod Cyrus Fawr. Ymddengys mai'r casgliad hwn a drosglwyddwyd i Cumae ac yna i Rufain.
Dywedir i'r bachgen Ganymede, mab un o frenhinoedd Caerdroea, gael ei gipio o Fynydd Ida gan Zeus, i'w wasanaethu yn Olympos. Bu Paris, mab Priam, brenin Caerdroea, yn byw fel bugail ar Fynydd Ida, ac yma y bu'n feirniad yn y gystadleuaeth harddwch rhwng y duwiesau Athena, Hera ac Aphrodite a arweiniodd ar Ryfel Caerdroea. O gopa Mynydd Ida y gwyliau'r duwiau a'r duwiesau yr ymladd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.