Gwleidydd o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Cymreig yw Neil John McEvoy (ganwyd 4 Ebrill 1970). Roedd yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Etholaeth ranbarthol Canol De Cymru rhwng 2016 a 2021. Fe'i etholwyd fel cynghorydd Llafur yn 1999 ond newidiodd i fod yn aelod o Blaid Cymru yn 2003. Roedd yn aelod annibynnol o'r Cynulliad rhwng 2018 a 2020 cyn sefydlu ei blaid newydd Welsh National Party gynt, nawr Propel.[2]
Neil McEvoy | |
---|---|
McEvoy yn 2016 | |
Arweinydd Propel | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 15 Ionawr 2020 | |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y blaid |
Aelod o Senedd Cymru dros Canol De Cymru | |
Yn ei swydd 5 Mai 2016 – 29 Ebrill 2021 | |
Rhagflaenwyd gan | Leanne Wood |
Cynghorydd dros Y Tyllgoed | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 1 Mai 2008 | |
Rhagflaenwyd gan | Michael Costas-Michael |
Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd | |
Yn ei swydd 16 Mai 2008 – 3 Mai 2012 Yn gwasanaethu gyda Judith Woodman[1] | |
Cynghorydd dros Glan'rafon | |
Yn ei swydd 6 Mai 1999 – 10 Mehefin 2004 | |
Rhagflaenwyd gan | J. Singh |
Dilynwyd gan | J. Austin |
Manylion personol | |
Ganwyd | Caerdydd | 4 Ebrill 1970
Cenedligrwydd | Cymru |
Plaid wleidyddol | Propel (2020–presennol) |
Cysylltiadau gwleidyddol arall | Annibynnol (2018–2020) Plaid Cymru (2003–2018) Llafur (hyd at 2003) |
Priod | Ceri McEvoy |
Plant | 1 merch |
Galwedigaeth | Gwleidydd. Athro gynt. |
Gwefan | www.neilmcevoy.cymru |
Ganwyd a magwyd McEvoy yng Nghaerdydd. Ar ochr ei fam daeth ei ddad-cu o'r Yemen a mae teulu ei dad o Iwerddon a Lloegr. Cafodd ei gymhwyso fel athro ieithoedd modern.[3]
Mae'n gynghorydd yn cynrychioli y Tyllgoed ar Gyngor Dinas Caerdydd ac yn arwain Grŵp Plaid Cymru y cyngor. Roedd yn ddirprwy arweinydd y cyngor rhwng 2008 a 2012.[4]
Yn 2015, fe'i ddewiswyd yn ail ar rhestr ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru [5] Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood oedd ar y frig y rhestr ond enillodd hi sedd y Rhondda yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016. Felly etholwyd McEvoy fel ail ddewis Plaid Cymru ar y rhestr.[6].
Ar 16 Ionawr 2018 fe'i waharddwyd yn barhaol o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, am yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fel "ymddygiad oedd yn tanseilio undod a chyfanrwydd y blaid".[7] Cafodd ei wahardd o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad ym mis Ionawr 2018 ac yn ddiweddarach cafodd ei ddi-arddel o Blaid Cymru am 12 mis. Dywedodd yn Hydref 2019 na fyddai'n ceisio ail-ymuno â Phlaid Cymru.[8]
Yn Etholiad Senedd Cymru, 2021, safodd yn erbyn y Prif Weinidog Mark Drakeford yn etholaeth Gorllewin Caerdydd. Gwnaeth hyn fel arweinydd Propel, y blaid genedlaetholgar newydd a ffurfiodd, gan dargedu cefnogwyr ei blaid flaenorol, Plaid Cymru.[9] Daeth yn bedwerydd tu ôl Rhys ab Owen, ymgeisydd Plaid Cymru.[10]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.