Leanne Wood

gwleidydd (1971- ) From Wikipedia, the free encyclopedia

Leanne Wood
Remove ads

Gwleidydd o Gymru a chyn-arweinydd Plaid Cymru yw Leanne Wood (ganed 13 Rhagfyr 1971). Bu'n cynrychioli Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ranbarth Canol De Cymru rhwng 2003 a 2016. Cipiodd sedd y Rhondda yn etholiad y Cynulliad, 2016 ond ni chafodd ei hail-ethol yn Etholiad Senedd Cymru, 2021. Bu'n Weinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ac yn llefarydd Plaid Cymru ar Dai ac Adfywio.

Ffeithiau sydyn Arweinydd Plaid Cymru, Arlywydd ...

Fe'i ganed yn Llwynypia yn y Rhondda. Mae hi'n weriniaethwr ac yn sosialydd o argyhoeddiad ac fe ddysgodd Cymraeg fel oedolyn. Mae hi hefyd yn un o Is-lywyddion Anrhydeddus Searchlight Cymru.

Gorfodwyd iddi adael siambr y cynulliad ar ôl iddi gyfeirio at frenhines y DU wrth ei henw personol, sef Mrs Windsor, yn hytrach na "The Queen", a hynny oherwydd ei daliadau gwleidyddol fel gweriniaethwraig Gymreig.[2]

Remove ads

Arweinyddiaeth Plaid Cymru

Fe etholwyd Leanne Wood fel arweinydd Plaid Cymru ar Fawrth 15fed 2012, gan guro Dafydd Elis Thomas ac Elin Jones. Seiliwyd ei hymgyrch ar y cysyniad o 'wir annibyniaeth'[3]. Cafwyd her i arweinyddiaeth Leanne Wood yng Ngorffennaf 2018, gyda Rhun ap Iorwerth ac Adam Price yn sefyll i fod yn arweinydd newydd.[4]. Cafwyd ymgyrch etholiadol gan y tri ymgeisydd yn ystod Awst a Medi. Cyhoeddwyd mai Adam Price fyddai'r arweinydd newydd ar 28 Medi 2018. Enillodd Price 3,481 pleidlais yn y rownd gyntaf, gyda ap Iorwerth yn ail gyda 1,961 pleidlais a Wood yn drydydd gyda 1,286. Yn yr ail rownd, cafodd Price 2,863 pleidlais, a derbyniodd ap Iorwerth 1,613 pleidlais.[5]

Remove ads

Dadl deledu, 2015

Ar yr ail o Ebrill 2015, cymerodd Wood ran mewn dadl rhwng 7 o wleidyddion a ddarlledwyd ar brif sianeli teledu gwledydd Prydain.

Etholiad 2021

Collodd Wood ei sedd yn Rhondda yn etholiadau Seneddol 2021. Ar ôl buddugoliaeth Buffy Williams (Plaid Lafur), talodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, deyrnged i “ymroddiad a dewrder” Leanne Wood.[6]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads