Oireachtas na Gaeilge
gwyl gelfyddydol, diwylliannol a cherddorol iaith Wyddeleg sy'n debyg i'r Eisteddfod Genedlaethol. Nid yw ddrysu gydag Oireachtas y Ddeddfwrfa / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Oireachtas na Gaeilge (ynganiad Gwyddeleg: [ˈɛɾʲəxt̪ˠəsˠ n̪ˠə ˈɡeːlʲɟə]), “Y Cynulliad Wyddeleg”) yn ŵyl gelfyddydol flynyddol o ddiwylliant Gwyddelig, sydd wedi rhedeg ers y 1890au. Wedi’i hysbrydoli gan yr eisteddfodau Cymraeg,[1] a gŵyl y Mòd Gaeleg yn yr Alban mae’r ŵyl wedi cynnwys gwahanol ddigwyddiadau yn ymwneud â’r iaith a diwylliant Gwyddeleg dros y blynyddoedd. Heddiw mae trefniadaeth yr ŵyl yn cynnal digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, ond yr amlycaf yw Oireachtas na Samhna ("cynulliad Tachwedd") a gynhelir ar benwythnos olaf Hydref neu'r cyntaf o Dachwedd, pan fydd mwy na 100,000 o bobl yn mynychu'r digwyddiad saith diwrnod.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dechrau/Sefydlu ...
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl, sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1897 |
Pencadlys | Dulyn, Casla, Newry |
Gwefan | https://www.antoireachtas.ie |
Cau
- Noder: Peidied drysu gyda'r Oireachtas Éireann caiff ei rhedeg o swyddfa Arlywydd Iwerddon ac mae'n cynnwys dau dŷ neu siambr a elwir weithiau yn "Tai'r Oireachtas", sef Dáil Éireann (y siambr blaen) a Seanad Éireann (yr ail siamber). Mae'n cynnwys, hefyd, Arlywydd Iwerddon.