ail siambr deddfwrfa Iwerddon From Wikipedia, the free encyclopedia
Seanad Éireann (Ynganiad IPA: [ˈʃan̪ˠəd̪ˠ ˈeːɾʲən̪ˠ]) sef, o'i gyfieithu, Senedd Iwerddon, yw llywodraeth ail dŷ neu siambr yr Oireachtas (deddfwrfa Gweriniaeth Iwerddon). Rhannau eraill y Ddeddfwrfa yw Arlywydd Iwerddon a Dáil Éireann (y brif siambr). Gelwir y corff, fel rheol yn Seanad neu Senate a'i haelodau yn senators yn Saesneg a seanadóirí yn y Wyddeleg, unigol: seanadóir). Yn wahanol i Dáil Éireann, nid yw ei haelodau wedi eu hethol yn uniongyrchol ond yn hytrach drwy amryw o ffyrdd. Mae ei grym llawer yn llai na'r Dáil - gall ond araf deddfau yn hytrach na'u gwrthwynebu'n llwyr. Lleolir y Seanad yn adeilad Tŷ Leinster.
Seanad Éireann Senate of Ireland | |
---|---|
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Ail Dŷ Oireachtas |
Arweinyddiaeth | |
Cathaoirleach | Denis O'Donovan, (FF) ers 8 Meh. 2016 |
Leas-Chathaoirleach | Paul Coghlan, (FG) ers 16 Meh. 2016 |
Leader | Jerry Buttimer, (FG) ers 8 Mehefin 2016 |
Deputy Leader | Catherine Noone, (FG) ers 1 Gorff. 2016 |
Opposition Leader | Catherine Ardagh, (FF) ers 18 Mai 2016 |
Cyfansoddiad | |
Aelodau | 60 |
Grwpiau gwleidyddol |
|
Etholiadau | |
Etholiad diwethaf | 24 April 2016 |
Man cyfarfod | |
Seanad chamber , Dublyn | |
Gwefan | |
oireachtas.ie |
Caiff y cyfarfodydd y Seanad ei chadeirio gan y Cathaoirleach (Cadeirydd). Y Cathaoirleach sy'n cadw trefn ar y corff.
Yn ôl Erthygl 18 o Gyfansoddiad Iwerddon mae i Seanad Éireann 60 aelod a ddewisir fel a ganlyn:
Rhaid cynnal etholiad gyffredinol i'r Seanad dim hwyrach na 90 dydd wedi diddymu Dáil Éireann. Etholid yr aelodau drwy system o gynrychiolaeth gyfrannol a elwir fel pleidlais sengl drosglwyddadwy (ym mhaneli'r etholaethau mae pob pleidlais yn cyfri fel 1000, sy'n golygu fod canrannau o'r bleidlais yn haws i'w drosglwyddo).
Mae aelodaeth yn agored i bob dinesydd Gwyddelig dros 21 oed, ond gall seanadóir ddim fod yn aelod gydamserol o Dáil Éireann. Serch hynny, fel nodir uchod, rhaid i enwebiadau i etholaethau'r prifysgolion gynnwys 10 llofnod gan raddedigion.
Mewn achos o sedd wag ar y Panel Alwedigaethol, mae'r is-etholiad yn cynnwys aelodau'r Oireachtas yn unig.[1] Llenwir seddi gweigion i seddi'r prifysgolion gan yr etholiad gan holl aelodau'r etholaeth.
Plaid | Seneddwyr | |
---|---|---|
Fine Gael | 20 | |
Fianna Fáil | 13 | |
Sinn Féin | 6 | |
Plaid Lafur Iwerddon | 4 | |
Plaid Werdd Iwerddon | 1 | |
Human Dignity Alliance | 1 | |
Annibynnol | 15 | |
Cyfanswm | 60 |
Sefydlwyd y Dáil Éireann gyntaf yn 1919 gan y cenedlaetholwyr fel senedd un siambr. Yn 1920 sefydlodd Lywodraeth Prydain Senedd De Iwerddon gydag ail siambr a alwyd yn 'Seneta'. Roedd y corff yma'n cynnwys cymysgedd o arglwyddi Gwyddeleg ac apwyntiadau'r llywodraeth (Brydeinig). Cwrddodd y Senedd yma yn 1921 ond fe'i boicotiwyd gan genedlaetholwyr Gwyddelig ac felly daeth byth yn weithredol. Diddymwyd y corff yn llwyd gyda sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1922 er i nifer o'i haelodau gael ei hapwyntio i Senedd y Wladwriaeth Rydd.
Defnyddiwyd y term Seanad Éireann am y tro cyntaf fel teitl ail siambr Oireachtas y Wladwriaeth Rydd. Roedd y Seanad yma'n cynnwys cymysgedd o aelodau a apwyntiwyd gan Arlywydd y Cyngor Gweithredu (President of the Executive Council) ac aelodau a etholwyd yn anuniongyrchol gan y Dáil, a cytunodd W. T. Cosgrave i ddefnyddio ei apwyntiadau ef er mwyn cynnwys cynrychiolaeth ychwanegol o leiafrif Brotestanaidd y wladwriaeth newydd. Fe ddileuwyd Seanad y Wladwriaeth Rydd yn gyfan gwbl yn 1936 wedi iddi oedi cynigion cyfansoddiadol gan y Llywodraeth Fianna Fail.
Sefydlwyd, neu'n hytrach, ail-sefydlwyd y Seanad Éireann gyfoes gan Gyfansoddiad Iwerddon yn 1937. Pan fabwysiadwyd y ddogfen hon fe benderfynwyd cadw'r teitlau Gwydddeleg, Oireachtas, Dáil Éireann am y siambr gyntaf a Seanad Éireann am yr ail siambr, fel a ddefnyddiwyd yn ystod cyfnod y Wladwriaeth Rydd. Ystyriwyd y Seanad yma fel olynydd i Seanad y Wladwriaeth Rydd ac felly yn ystod ei chyfarfod gyntaf fe'i cyfeirir ati fel "Yr Ail Seanad".
Fe ysbrydolwyd y system o Baneli Galwedigaethol i enwebu ymgeiswyr i'r Seanad gan athrawiaeth gymdeithasol yr Eglwys Gatholig yn yr 1930au, ac, yn enwedig, yr Cylchlythyr y Pâb Quadragesimo anno. Yn y ddogfen hon mae'r Pab Pïws XI yn dadlau y dylai'r cysyniad Farcsaidd o wrthdarro dosbarth gael ei eilyddio gan weledigaeth o drefn gymdeithasol wedi ei seilio ar gydweithio a chyd-ddibyniaeth gwahanol grwpiau galwedigaethol cymdeithas.
Ym mis Hydref 2009, datganodd arweinydd plaid Fine Gael, Enda Kenny, ei fwriad y byddai llywodraeth Fine Gael yn dileu y Seanad ynghyd â lleihau nifer y TDs gan 20 er mwyn "arbed oddeutu €150m dros gyfnod tymor y Dáil."[2] Yn ystod Etholiad Cyffredinol 2011 fe wnaeth Plaid Lafur Iwerddon, Sinn Féin a Phlaid Sosialaidd Iwerddon hefyd gefnogi diddymu'r Seanad.[3][4][5] tra i blaid Fianna Fáil gefnogi refferendwm ar y pwnc.[6]
Wedi ethol Llywodraeth Fine Gael-Llafur, cafwyd refferendwm ar y mater ym mis Hydref 2013. Pleidleisiodd pobl 51.7% to o blaid cadw Seanad Éireann a 48.3% yn ei erbyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.