brenin neu frenhines (1909-1972) From Wikipedia, the free encyclopedia
Brenin Gwlad Iorddonen o 1951 hyd 1952 oedd Talal I bin Abdullah (26 Chwefror 1909 – 7 Gorffennaf 1972).
Talal, brenin Iorddonen | |
---|---|
Ganwyd | 26 Chwefror 1909 Mecca |
Bu farw | 7 Gorffennaf 1972, 8 Gorffennaf 1972 Istanbul |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd, Trawsiorddonen, Gwlad Iorddonen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Brenin Gwlad Iorddonen |
Tad | Abdullah I, brenin Iorddonen |
Mam | Musbah bint Nasser |
Priod | Zein Al-Sharaf Talal |
Plant | Hussein, brenin Iorddonen, Y Tywysog Muhammad Bin Talal o Jordan, Tywysog El Hassan Bin Talal o Jordan, Tywysoges Basma Bint Talal o Jordan |
Perthnasau | Abdullah II, brenin Iorddonen |
Llinach | Hashimiaid |
Gwobr/au | Order of al-Hussein bin Ali, Urdd Goruchaf y Dadeni, Order of the Star of Jordan, Urdd yr Hashimites, Urdd Al Rafidain, Croes fawr teilyngdod milwrol, adran wen |
Ganwyd Talal ym Mecca ym 1909. Ym 1929 daeth yn yr Iorddoniad cyntaf i raddio o Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Gwasanaethodd fel swyddog yn y Fyddin Arabaidd a bu'n ymladd yn erbyn yr Iddewon yn Jeriwsalem, Ramallah a threfi eraill ym Mhalesteina.[1] Priododd Zein al-Sharaf ym 1934 a chafodd tri mab, Hussein, Muhammad ac Hassan, ac un ferch, Basma. Bu farw'r Dywysoges Asma a'r Tywysog Muhsin yn ifanc.
Daeth Talal i'r orsedd yn sgil bradlofruddiaeth ei dad Abdullah I ar 20 Gorffennaf 1951. Yn ystod ei deyrnasiad byr lluniwyd cyfansoddiad rhyddfrydol i'r wlad a ddatganodd Gwlad Iorddonen yn rhan o'r genedl Arabaidd. Yn ogystal gwnaed y llywodraeth yn atebol i'r senedd dan delerau'r cyfansoddiad, a chyflwynodd addysg orfodol am ddim i'r wlad.[1]
Ar 11 Awst 1952 datganodd Senedd Gwlad Iorddonen yr oedd Talal yn dioddef o sgitsoffrenia ac yn anghymwys i deyrnasu, gan drosglwyddo'r goron i'w fab Hussein. Ymddiorseddodd Talal heb brotest ac ymgartrefodd yn Istanbwl, a bu farw yno ym 1972.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.