Tom Daley
plymiwr Seisnig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Plymiwr a phersonoliaeth deledu Seisnig yw Thomas Robert "Tom" Daley (ganwyd 21 Mai 1994)[2]. Mae Daley yn arbenigo yn y gamp bwrdd 10 metr ac roedd yn Bencampwr y Byd ym mhencampwriaethau FINA 2009 yn yr ornest unigol pan oedd yn 15 mlwydd oed. Cychwynnodd blymio yn 7 mlwydd oed ac mae'n aelod o Glwb Plymio Plymouth. Mae wedi gwneud argraff mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ers oedd yn 9 oed. Cynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 lle'r oedd y cystadleuwr ieuengaf o wledydd Prydain, y cystadleuwr ieuengaf o unrhyw wlad tu allan i gystadlaethau nofio, a'r ieuengaf i gymryd rhan mewn rownd derfynol.[5] Yn 2009, cyrhaeddodd Daley safle gorau ei yrfa yn rhif un yn Safleoedd Plymio Byd FINA ar gyfer y bwrdd deg metr.[6]
Tom Daley yn 2012 | |
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Thomas Robert Daley[1] |
Ganwyd | (1994-05-21) 21 Mai 1994 (29 oed) Plymouth, Dyfnaint |
Taldra | 177 cm (5 ft 10 in) (5 ft 10 in)[2] |
Pwysau | 74 kg (11 st 9 lb; 163 lb)[2] |
Camp | |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig Lloegr |
Camp | 10 m, 10 m synchro, 3 m |
Clwb | Clwp Plymio Plymouth / Canolfan Perfformiad Uchel Llundain[3] |
Partner | Dustin Lance Black (p. 2017)[4] |
Hyfforddwr/aig | Jane Figueredo |
Enillodd ddwy fedal aur i Loegr yng Ngemau'r Gymanwlad 2010, yn y plymio ar y cyd (synchro) 10 metr (gyda Max Brick) a'r gystadleuaeth Unigol Bwrdd 10m,[7] ac enillodd y fedal efydd ar gyfer Prydain Fawr yn y gystadleuaeth unigol yng Ngemau'r Olympaidd 2012.[8] Enillodd Daley a Matty Lee y fedal aur yng nghystadleuaeth plymio cydamserol yng Ngemau Olympaidd 2020 yn Tokyo.[9]
Yn dilyn ei lwyddiant yng Ngemau'r Olympaidd 2012 a haf lle daeth chwaraeon yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain, gofynnodd y rhwydwaith deledu ITV i Daley gymeryd rhan mewn sioe realaeth newydd o'r enw Splash! yn dangos enwogion yn dysgu sut i blymio. Cychwynnodd y sioe ar 5 Ionawr 2013 gyda Daley fel mentor i'r cystadleuwyr enwog.[10]