From Wikipedia, the free encyclopedia
Trydan yw'r nodwedd a welir mewn gronynnau is-atomig (electronau a phrotonau) a'r rheswm dros yr atyniad sydd rhyngddynt. Mae trydan yn fath o ynni. Gellir cynhyrchu trydan trwy dwymo dŵr sy'n troi i stêm ac yn gweithredu tyrbin.
Enghraifft o'r canlynol | dictionary page in Wikipedia |
---|---|
Math | egni, ffynhonnell ynni, ffenomen ffisegol |
Dyddiad darganfod | 1821 |
Rhan o | electromagneteg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn ffiseg, mae disgyrchiant yn tynnu gwrthrychau o fan uchel i fan isel. Mae dŵr yn llifo o ardal uchel yn y wlad i'r môr sydd yn is. Mae hyn yn wir efo cerrynt trydanol; mae ynni yn symud o rywle uchel i rywle isel. Mae trydan yn fath arall o atyniad, fel disgyrchiant. Ond yn annhebyg i ddisgyrchiant, dim ond ar bethau eraill sydd hefyd â gwefr drydanol mae trydan yn cael effaith. Os yw rhywbeth wedi ei wefru, fe symudith tuag at wrthrych arall sydd â pholaredd i'r gwrthwyneb neu i ffwrdd o rywbeth sydd â'r un polaredd. Mae'r polareddau hyn yn rhai positif (+) a negatif (-).
Dosberthir trydan o orsafoedd pŵer i gwsmeriaid gan rwydwaith o geblau. Yng ngwledydd Prydain, gelwir y rhwydwaith yn Grid Cenedlaethol. Mae'r diagram isod yn dangos rhwydwaith dosbarthu trydan sy'n debyg i'r grid cenedlaethol.
Egni cinetig sydd ei angen i greu trydan. Y ffordd fwyaf effeithlon o gynhyrchu egni cinetig ar hyn o bryd yw i wresogi dŵr i greu ager sydd wedyn yn gyrru tyrbin. Wrth i dua 25,000 V o drydan adael y pŵerdŷ mae'n troi'r foltedd i tua 400,000 V (400 kV) ar y peilonau uwchben oherwydd mae foltedd uchel yn lleihau'r cerrynt ac felly mae yna lai o wres yn cael ei golli. Mae newidydd gostwng yn newid y foltedd i lawr i 230 V yn nes at gartrefi'r cwsmeriad. Mae'r folteddau yn amrywio o wlad i wlad.
Pan geir foltedd ar draws gwrthydd (neu gydran arall) fe gynhyrchir cerrynt sy'n llifo drwy'r gwrthydd. Yn ôl Deddf Ohm, cysylltir y mesurau hyn gan y fformiwla:
lle:
Yn ogystal, mae gwrthydd yn troi ynni trydanol yn wres pan fo cerrynt yn llifo trwyddo. Rhoddir y pŵer (P) gan,
neu, gan ddefnyddio Deddf Ohm.
Un coulomb yw'r gwefriad trydanol a gludir mewn un eiliad pan fo cerrynt cyson o un Ampere.
Gellir hefyd ddiffinio foltedd gan,
lle:
Yn achos cerrynt eiledol, rhaid ystyried y gwahaniaeth ffâs rhwng y foltedd â'r cerrynt hefyd. Mewn gwrthydd pur, bydd y fformiwlâu uchod yn gywir o hyd. Ond, mewn cynhwysydd gyda chynhwysiant C, os yw'r foltedd enydaidd yn amrywio gydag amser (t) fel:
bydd y cerrynt enydaidd yn:
a bydd y pŵer enydaidd (P) yn:
Mewn rhannau o'r gylchred, mae'r cynhwysydd yn storio ynni trydanol, ac mewn rhannau eraill mae o'n ei ryddhau. Ond ni thröir ynni trydanol yn wres, ac ar gyfartaledd ni thynnir pŵer trydanol o'r amdaith.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.