ffilm ddrama am y cyfnod glasoed gan Kevin Allen a gyhoeddwyd yn 1997 From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm gomedi dywyll o 1997 yw Twin Town. Lleolwyd y ffilm yn Abertawe a defnyddiwyd y ddinas honno ar gyfer y gwaith ffilmio, ynghyd â thref Port Talbot. Cafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan Kevin Allen a'r bwriad gwreiddiol oedd enwi'r ffilm yn Hot Dog, oherwydd bod fan cwn poeth yn cael ei weld mewn nifer o olygfeydd y ffilm.
Cyfarwyddwr | Kevin Allen |
---|---|
Ysgrifennwr | Kevin Allen Paul Durden |
Serennu | Rhys Ifans Llŷr Ifans Dorien Thomas Dougray Scott Huw Ceredig |
Dylunio | |
Amser rhedeg | 99 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig Cymru |
Iaith | Saesneg Cymraeg |
(Saesneg) Proffil IMDb |
Mae'r ffilm yn serennu Rhys Ifans, Llŷr Evans, Dougray Scott, Keith Allen, Brian Hibbard, Huw Ceredig, Dorien Thomas, Ronnie Williams. Mae Rhys Ifans yn chwarae cymeriad Jeremy Lewis a'i frawd Llŷr Evans yn actio rhan ei frawd, Julian Lewis. Gan ddefnyddio techneg sy'n atgoffa'r gwyliwr o ffilmiau Hitchcock, mae'r cyfarwyddwr i'w weld yn y ffilm fel cyflwynydd ar set deledu, yn y garafan lle mae'r efeilliaid yn byw.
Ym mis Ebrill 2009 fe ddwedodd y cyfarwyddwr ei fod yn bwriadu gwneud 'Twin Town 2'.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.