From Wikipedia, the free encyclopedia
Prif Ysgrifennydd Gwladol Ei Mawrhydi dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd neu, yn anffurfiol, Ysgrifennydd Brexit,[1] yw'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, y cyfeirir ato'n anffurfiol fel "Brexit". Cyfrifoldeb yr ysgrifennydd yw goruchwylio'r trafodaethau am dynnu allan o'r UE yn dilyn refferendwm ar 23 Mehefin 2016, lle pleidleisiodd mwyafrif o'r rhai a bleidleisiodd o blaid gadael yr Undeb.[2][3] Mae deiliad y swydd yn aelod o'r Cabinet.
Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd | |
---|---|
Arfbais Llywodraeth Ei Mawrhydi | |
Yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd | |
Arddull | Ysgrifennydd Brexit (anfurfiol) Y Gwir Anrhydeddus (o fewn y DU a'r Gymanwlad) |
Aelod o | Cabinet y Deyrnas Unedig |
Yn adrodd i | Prif Weinidog y Deyrnas Unedig |
Lleoliad | Westminster, Llundain |
Penodwr | Y Frenhines ar argymhelliad Y Prif Weinidog |
Cyfnod y swydd | amhenodol |
Ffurfwyd | 13 Gorffennaf 2016 |
Deilydd cyntaf | David Davis |
Cafodd y swydd ei greu ar gychwyn Prif Weinidogaeth Theresa May, a ddaeth yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ar 13 Gorffennaf 2016.[4] Mae'r ysgrifennydd yn bennaeth ar Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd, sydd a'i phencadlys yn rhif 9 Stryd Downing, Westminster, Llundain.
Y deiliad cyntaf oedd David Davis AS, Ewrosceptig ers amser maith a fu'n chware rhan flaenllaw yn yr ymgyrchu o blaid ymadawiad y DU o'r UE.[5] Mae Davis yn gyn- gadeirydd y Blaid Geidwadol a wasanaethodd yn llywodraeth John Major fel Gweinidog Gwladol dros Ewrop (1994-97) ac yng Nghabinet Cysgodol David Cameron fel yr Ysgrifennydd Cartref Cysgodol .[6]
Ymddiswyddodd Davis ar 8 Gorffennaf 2018 ychydig cyn hanner nos. Penodwyd Dominic Raab ar 9 Gorffennaf fel ei olynydd. Ymddiswyddodd Rabb ar 15 Tachwedd 2018.[7] Penodwyd Stephen Barclay, a fu gynt y Gweinidog Gwladol dros Iechyd, fel olynydd Raab ar 16 Tachwedd 2018.[8]
Lliw'r blaid :
Ceidwadol
Delwedd | Enw | Cyfnod yn y swydd | Party | Prif Weinidog | Cyf. | |||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
David Davis AS Haltemprice a Howden |
13 Gorffennaf 2016 | 8 Gorffennaf 2018 | Ceidwadol | Theresa May | [9] | |||
Dominic Raab AS Esher a Walton |
9 Gorffennaf 2018 | 15 Tachwedd 2018 | [10] | |||||
Stephen Barclay AS Gogledd Orllewin Cambridgeshire |
16 Tachwedd 2018 | Deilydd | [8] |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.