2016
blwyddyn From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
20g - 21g - 22g
1960au 1970au 1980au 1990au 2000au - 2010au - 2020au 2030au 2040au 2050au 2060au
2011 2012 2013 2014 2015 - 2016 - 2017 2018 2019 2020 2021
Digwyddiadau
Ionawr
- 28 Ionawr - Cyfundrefn Iechyd y Byd yn cyhoeddi ei bod yn bur debygol y gwelir y Y Feirws Zika yn ymledu drwy'r rhan fwyaf o'r Americas.
Chwefror
- 7 Chwefror – Gogledd Corea yn lansio roced pell-gyrhaeddol i'r gofod, a chafwyd cryn feirniadaeth ar draws y byd.
- 26 Chwefror - Etholiad cyffredinol yn Iwerddon.
Mawrth
- Diawled Caerdydd yn symud i leoliad newydd yn Arena Iâ Cymru.
- 19 Mawrth – Alun Cairns yn cael ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
- 21 Mawrth – Arlywydd Unol Daleithiau America, Barack Obama, yn ymweld â Cuba.
- 22 Mawrth – Tri ffrwydriad ym Mrwsel, Gwlad Belg yn lladd 32 ac yn anafu dros 259 o bobl. Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (ISIL) yn hawlio cyfrifoldeb.
Ebrill
- 3 Ebrill - Cyhoeddi 11.5 miliwn o bapurau cyfrinachol cwmni 'Mossack Fonseca', papurau a elwir yn "Bapurau Panama" gan nodi gwybodaeth am tua 214,000 o gwmnïau hafan treth.
- 6 Ebrill - Sigmundur Davíð Gunnlaugson, Prif Weinidog Gwlad yr Iâ yn ymddiswyddo.
Mai
- 5 Mai - Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016.
- 19 Mai - Hediad 804 cwmni EgyptAir yn syrthio uwch y Môr Canoldir rhwng Paris a Cairo, gan ladd 66 o bobl oedd ar ei bwrdd.
Mehefin
- 1 Mehefin - Agoriad swyddogol 'Prif Dwnnel Gotthard' (Gotthard Base Tunnel'), twnnel hiraf a thyfnaf y byd, i gludo trenau.
- 10 Mehefin - Dechrau Pencampwriaeth UEFA Euro 2016.
- 20 Mehefin - 20 Mehefin 2016, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn llwyddo i ennill Grŵp B, a chyrraedd rownd yr 16 olaf yng nghystadleuaeth Ewro 2016 wedi iddynt guro Rwsia o dair gôl i ddim.
- 23 Mehefin - Cymru a Lloegr yn pleidleisio dros adael y Gymuned Ewropeaidd; gweler: Refferendwm y Deyrnas Unedig.
Gorffennaf
- 4 Gorffennaf - Y chwiliedydd gofod Juno yn cylchdroi o amgylch y blaned Iau.
- 6 Gorffennaf - Portiwgal yn curo Cymru 2-0 yn rownd gyn-derfynol Cystadleuaeth Ewro 2016.
- 13 Gorffennaf - Theresa May yn cael ei phenodi'n arweinydd y Blaid Geidwadol ac felly'n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
- 29 Gorffennaf – 6 Awst – Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 (Gweler isod)
Awst
- 5-21 Awst - Gemau Olympaidd yr Haf 2016, Rio de Janeiro.
- 24 Awst – Daeargryn 6.2 yn taro canol yr Eidal, gan ladd 299 o bobol.
Medi
- 3 Medi - UDA a Tsieina yn arwyddo Cytundeb Amgylchedd y Ddaear, Paris, sef isgytundeb a grewyd yn dilyn Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd 2015 a gynhaliwyd ym Mharis.
- 9 Medi - Llywodraeth Gogledd Corea yn cynnal ei phumed prawf niwclear. Arweinwyr y byd yn condemnio’r weithred, gyda De Corea yn ei galw’n “ddifrifwch maniacal”.
- 30 Medi - Dau baentiad gan Vincent van Gogh gwerth $100 miliwn (Morlun o Scheveningen a Morlun yn Scheveningen a'r Gynulleidfa yn Gadael yr Eglwys Ddiwygiedig yn Nuenen), yn cael eu hadfer ar ôl cael eu dwyn ar 7 Rhagfyr 2002, o Amgueddfa Van Gogh yn Amsterdam.
Hydref
- 8 Hydref - Perfformiad cyntaf o Cantata Memoria gan Syr Karl Jenkins (gyda barddoniaeth gan Mererid Hopwood) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
- 13 Hydref - Maldives yn cyhoeddi eu penderfyniad i dynnu'n ôl o Gymanwlad Lloegr.
Tachwedd
- 2 Tachwedd - Joanna Penberthy yn cyhoeddi ei bod wedi ei dewis yn Esgob Tyddewi.
- 8 Tachwedd - Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau: Y dyn busnes Donald Trump yn cael ei ethol yn 45ed Arlywydd yr Unol Daleithiau mewn buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn ei wrthwynebydd, y cyn Ysgrifennydd Gwladol Hillary Clinton.
Rhagfyr
- 4 Rhagfyr - Refferendwm cyfansoddiadol yn cael ei gynnal yn yr Eidal, gan arwain at ymddiswyddiad y Prif Weinidog.
- 19 Rhagfyr - Andrei Karlov, llysgennad Rwsia i Dwrci, yn cael ei lofruddio gan heddwas Twrcaidd (nad oedd ar ddyletswydd) mewn arddangosfa gelf yn Ankara.
- 23 Rhagfyr - Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn mabwysiadu Penderfyniad 2334 yn condemnio “aneddiadau Israel yn nhiriogaethau Palestina a feddiannwyd ers 1967”.
Remove ads
Genedigaethau
- 19 Ebrill - Tywysog Alexander o Sweden, wyr Carl Gustaf XVI, brenin Sweden
Marwolaethau
- 5 Ionawr - Pierre Boulez, cyfansoddwr ac arweinydd, 90
- 10 Ionawr - David Bowie, canwr ac cerddor, 69
- 8 Chwefror - John Disley, athletwr, 87[1]
- 16 Chwefror - Jim Pleass, cricedwr (Glamorgan), 92[2]
- 8 Mawrth - George Martin, cynhyrchydd recordiau a cherddor, 90
- 14 Mawrth - Peter Maxwell Davies, cyfansoddwr, 81
- 31 Mawrth
- Zaha Hadid, pensaer, 65
- Ronnie Corbett, actor a digrifwr, 85
- Imre Kertész, awdur, 86
- Hans-Dietrich Genscher, gwleidydd a diplomydd, 89
- 10 Ebrill
- Howard Marks, cannabis smuggler, writer and legalisation campaigner, 70 (canser)[3]
- Arglwyddes Woodward (Melinda Rose Woodward), gwraig Syr Tom Jones, 75
- 13 Ebrill
- Gareth Thomas, actor, 71[4]
- Gwyn Thomas, bardd, 79[5]
- 9 Mai - Gareth Gwenlan, television producer, 79[6]
- 2 Gorffennaf
- Elie Wiesel, sgriptiwr, 87
- Michel Rocard, gwleidydd, 85
- Caroline Aherne, actores a digrifwraig, 52
- 21 Gorffennaf - J. O. Roberts, actor, 84[7]
- 31 Gorffennaf - Gwynn ap Gwilym, author, 61[8]
- 1 Awst - Dai Dower, paffiwr, 83[9]
- 24 Medi - Mel Charles, pêl-droediwr a brawd John Charles, 81[10]
- 1 Hydref - Daphne Odjig, arlunydd, 97
- 3 Hydref - Andrew Vicari, arlunydd, 84[11]
- 13 Hydref
- Bhumibol Adulyadej, brenin Gwlad Tai, 88
- Dario Fo, actor, sgriptiwr a dramodydd, 90
- 16 Hydref - Kigeli V, brenin Rwanda, 80
- 18 Hydref
- Gary Sprake, pêl-droediwr, 71[12]
- Huw Jones, esgob, 82[13]
- 21 Hydref - Raine, Iarlles Spencer, llysfam Diana, Tywysoges Cymru, 87
- 22 Hydref - Terry James, cyfansoddwr, 83
- 23 Hydref - Pete Burns, canwr, 57
- 24 Hydref - Bobby Vee, canwr, 73
- 16 Tachwedd - Len Allchurch, pêl-droediwr, 83
- 8 Rhagfyr - Fred Secombe, awdur, 97[14]
- 9 Rhagfyr - Edwin Benson, siaradwr olaf Mandaneg, 85
- 21 Rhagfyr - Deddie Davies, actores, 78[15]
- 22 Rhagfyr - John Gwilliam, chwaraewr rygbi'r undeb, 93[16]
- 27 Rhagfyr - Carrie Fisher, actores, 60
Rhai Cymry a fu farw yn 2016
Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Remove ads
Y celfyddydau
Cerddoriaeth
- Karl Jenkins - Cantata Memoria – Er Mwyn y Plant; cyfansoddiad corawl a grëwyd gan Syr Karl Jenkins a'r Prifardd Mererid Hopwood i goffau hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan.
Albymau
- John Cale - M:FANS
- Aled Jones - One Voice
Eisteddfod Genedlaethol (Sir Fynwy)
Chwaraeon
Gwobrau
- Gwobrau Chwaraeon Cymru, BBC
- Jade Jones, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn. Gareth Bale, a ddaeth yn ail, ac Elinor Barker yn y trydydd safle.
- Chris Coleman, Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig
Canlyniadau
- Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2016: Lloegr (10); Cymru (7), Iwerddon (5), yr Alban (4), Ffrainc (4) a'r Eidal (0)
- Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru: Cymru'n cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth pêl-droed rhyngwladol am y tro cyntaf erioed; nid oedd Ben Davies nac Aaron Ramsey yn chwarae; Portiwgal 2, Cymru 0.
- C.P.D. Dinas Abertawe yn parhau yn Uwch Gynghrair Lloegr, gydag Alan Curtis yn Rheolwr dros dro ar ddechrau'r flwyddyn ac yna Francesco Guidolin a Bob Bradley yn ei ddilyn; prynnwyd y Clwb gan Gonsortiwm Jason Levien.
Remove ads
Gwobrau Nobel
- Ffiseg: John M. Kosterlitz, Duncan Haldane a David J. Thouless
- Cemeg: Ben Feringa, Jean-Pierre Sauvage a Fraser Stoddart
- Meddygaeth: Yoshinori Ohsumi
- Llenyddiaeth: Bob Dylan
- Economeg: Oliver Hart a Bengt R. Holmström
- Heddwch: Juan Manuel Santos
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads