Aber-carn
cymuned a thref fechan ym mwrdeistref sirol Caerffili From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Thref fechan a chymuned ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru, yw Aber-carn[1] neu Abercarn.[2] Saif 10 milltir (16 km) i'r gogledd orllewin o Gasnewydd ar ffordd yr A467 rhwng Cwmcarn a Threcelyn. Cyn i'r siroedd gael eu hail-drefnu ym 1974, roedd yn rhan o'r hen Sir Fynwy, ac wedyn hyd at 1996 roedd yng Ngwent.
Roedd poblogaeth o 4793 yn ystod cyfrifiad 2001.[3]
Mae'r dref yn gorwedd yng nghanol dyffryn Afon Ebwy, ar ymyl de-ddwyreiniol ardal mwyngloddio Morgannwg a Sir Fynwy. Mae Caerdydd 18.2 km i ffwrdd o Abercarn ac mae Llundain yn 210.4 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 11.6 km i ffwrdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Ruth Jones (Llafur).[5]
Remove ads
Trychineb Abercarn, 1878
- Prif: Trychineb Abercarn, 1878
Yn hanesyddol, mae'r ardal yn gysylltiedig â maes glo De Cymru, gweithfeydd dur a phlat tun a Chymoedd De Cymru, ond mae rhain i gyd wedi cau erbyn hyn. Yma y safodd Glofa'r Prince of Wales, lle bu'r trydydd trychineb gwaethaf yn hanes Cymru, pan laddwyd 268 o weithwyr ar 11 Medi 1878.
Achoswyd trychineb Abercarn ar 11 Medi 1878, gan lamp ddiogelwch, gan gynnau ffrwydrad enfawr yn y pwll glo. Roedd 325 o weithwyr o dan y ddaear ar y pryd, ac anfonwyd timau achub i'r pwll i chwilio am oroeswyr yng nghanol y mwg, y fflamau a'r rwbel.[6] Bu farw tua 268 o ddynion a bechgyn yn y trychineb, a phenderfynwyd cau'r siafft, gan ei gorlifo â dŵr i ddiffodd y fflamau. O ganlyniad, arhosodd cyrff y rhai a fu farw yn y digwyddiad o dan y ddaear. Heddiw fe'u cofir yn lleol gyda charreg goffa ym mynwent Abercarn a olwyn fawr y pwll a murlun efydd ar safle'r trychineb.

Remove ads
Hanes
Roedd yn rhan o blwyf hynafol Mynyddislwyn tan yn hwyr yn y 19eg ganrif. Ffurfiwyd bwrdd iechyd ac ardal llywodraeth leol Abercarn ym 1892.[7] Trodd hwn yn ardal trefol Abercarn ym 1894, o dan lywodraeth cyngor lleol gyda 12 o gynghorwyr, ac roedd yr ardal drefol yn cynnwys Crymlyn a Threcelyn. Diddymwyd yn 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Lleol 1972, gan ddod yn rhan o fwrdeistref Islwyn, Gwent. Daeth yn rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili yn dilyn ad-drefnu 1996.
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]
Chwaraeon
Mae Abercarn yn gartref i Abercarn RFC, sy'n aelod o Undeb Rygbi Cymru.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

