Abergynolwyn

pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Abergynolwyn
Remove ads

Pentref bychan yng nghymuned Llanfihangel-y-Pennant, Gwynedd, Cymru, yw Abergynolwyn[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif gerllaw Afon Dysynni. Ar un adeg yr oedd diwydiant llechi pwysig yn yr ardal yma, a sefydlwyd y pentref yn y 1860au ar gyfer gweithwyr yn Chwarel Bryn Eglwys gerllaw yn Nant Gwernol. Heddiw ffermio a thwristiaeth yw’r prif ddiwydiannau. Cynhelir eisteddfod flynyddol yno.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...

Gerllaw’r pentref mae Rheilffordd Talyllyn, Llyn Mwyngil, Castell y Bere ger pentref cyfagos Llanfihangel-y-Pennant a Chraig yr Aderyn lle mae bryngaer o Oes yr Haearn ac amrywiaeth o adar.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Thumb
Abergynolwyn
Thumb
Tren yn Abergynolwyn tua 1885
Remove ads

Enwogion

  • Dafydd Richards (1829-1897), a ddaeth yn enwog fel cerflunydd yn UDA
  • Elwyn Roberts (1905-1988), Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Plaid Cymru, hanesydd lleol

Gweler hefyd

Llyfryddiaeth

  • Caradog Jones, Braslun o hanes pentref Abergynolwyn a chwareli Bryneglwys (Abergynolwyn: Pwyllgor Amgueddfa'r Pentref, 1983)
  • Elwyn Roberts, Wrth Odre Cadair Idris (Cyhoeddiadau Mei, 1989)

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads