Mabon ap Gwynfor
gwleidydd o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Rhodri Mabon ap Gwynfor, a adnabyddir fel "Mabon" (ganed 6 Awst 1978), yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd dros Plaid Cymru ers 2021. Roedd hefyd yn gynghorydd Sir dros ward Llandrillo, bro Edeirnion, ar Gyngor Sir Ddinbych. Fe'i etholwyd yn ddi-wrthwynebiad yn etholiadau Llywodraeth Leol Cymru ar Fai 4ydd 2017.
Mae'n briod i Nia, ac yn dad i bedwar o blant. Mae'n fab i Guto Prys a Sian Elis ap Gwynfor ac yn frawd i Heledd ap Gwynfor, ac mae'n ŵyr i'r gwleidydd Gwynfor Evans.
Remove ads
Blynyddoedd cynnar
Ganwyd Mabon yng Nglanaman.[1] Mae'n fab i weinidog gyda'r Annibynwyr; symudodd Mabon amryw o weithiau yn ystod ei blentyndod: gogledd Ceredigion, Dyffryn Teifi, Cwm Tawe, gyda chyfnod byr yn Gaiana wrth i'r teulu fynd fel cenhadon Cristnogol yno yn 1990.
Addysgwyd ef yn ysgolion cynradd Tal-y-Bont a Chwmann, ysgolion Uwchradd Dyffryn Teifi, Gwyr, ac Ystalyfera, a Phrifysgol Cymru Bangor. Wedi iddo raddio, fe'i etholwyd fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr ym Mangor yn 2000.
Remove ads
Gyrfa

Bu'n rheolwr gogledd Cymru ar gyfer un o elusennau iechyd mwyaf y DU, a chyn hynny bu'n rhedeg Tŷ Siamas yn Nolgellau.
Gweithiodd fel Swyddog y Wasg i Simon Thomas, AS Ceredigion, ac Elin Jones, AC Ceredigion cyn mynd ymlaen i fod yn bennaeth cyfathrebu Antur Teifi. Wedi hynny fe'i benodwyd fel Rheolwr Tŷ Siamas, yn Nolgellau. Fe'i benodwyd yn rheolwr Gogledd Cymru ar gyfer y British Heart Foundation yn 2009. Yn dilyn hyn aeth ymlaen i fod yn brif ymchwilydd gwleidyddol i Llyr Gruffydd AC.
Bu'n Gyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru am dair mlynedd rhwng 2012 a 2015. Ymddiswyddodd fel Cyfarwyddwr er mwyn osgoi rhoi'r Theatr mewn sefyllfa anodd. Cafodd ei ddewis fel ymgeisydd Cynulliad dros Blaid Cymru yn etholaeth De Clwyd a olygai y byddai'n sefyll yn erbyn Ken Skates, sef y Gweinidog a chyfrifoldeb dros y celfyddydau ar y pryd.
Remove ads
Gyrfa wleidyddol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
