Amlwch
tref a chymuned yn Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref fach a chymuned yn Ynys Môn yw Amlwch.[1][2] Saif yng ngogledd yr ynys ar lôn yr A5025 tua 15 milltir i'r gogledd o Borthaethwy, hanner ffordd rhwng Cemaes a Moelfre. Mae Caerdydd 229.2 km i ffwrdd o Amlwch ac mae Llundain yn 356.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 25.5 km i ffwrdd.
Mae enw 'Amlwch' yn cyfeirio at safle harbwr y dref, sef Porth Amlwch, yn deillio o'r Gymraeg am 'o gwmpas' a llwch (hen air sy'n golygu 'inlet', 'creek' yn debyg i'r gair Gaeleg 'loch') ar gyfer corff o ddŵr.
Tref sy'n gorwedd ar lan y môr yw hi, heb draeth ond gyda chlogwyni arfordirol trawiadol. Mae twristiaeth yn elfen bwysig yn yr economi leol. Ar un adeg roedd yn borthladd eithaf prysur gyda llongau yn hwylio oddi yno i Ynys Manaw a Lerpwl. Mae nifer o'r tai yn dyddio o'r 19g ac yn ychwanegu at awyrgylch y dref.
Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.

Remove ads
Hanes
Tyfodd Amlwch yn gyflym yn y 18g oherwydd y cloddio copr ar Fynydd Parys, y mwyaf o'i fath yn y byd ar un adeg. Erbyn diwedd y ganrif honno roedd gan Amlwch boblogaeth o tua 10,000 gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Dyna pryd yr estynnwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.
Dirywiodd y diwydiant copr lleol ar ganol y 1850au ond parhaodd Amlwch i fod yn ganolfan bwysig i'r diwydiant adeiladu ac atgyweirio llongau a gwaith arall cysylltiedig â'r môr.
Yn 1953 agorwyd gwaith cemegol i dynnu bromin o ddŵr môr ond cafodd ei gau yn 2004. Mae cau atomfa Wylfa, gerllaw, yn debyg o gael effaith andwyol ar yr economi lleol hefyd.
Mae siamber gladdu yn Amlwch o'r enw Barcloddiad y Gawres.
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Remove ads
Pobl o Amlwch
- William Roos (1808-1878), arlunydd
- Andy Whitfield (1971-2011), actor
Adeiladau a chofadeiladau
Porth Amlwch
- Prif: Porth Amlwch
Atyniadau yn y cylch
- Mynydd Parys - 'Y Mynydd Copr'
- Porth Llechog - bae deniadol tua milltir a hanner i'r gogledd o Amlwch
Oriel
- Melin Mynydd Parys
- Mynydd Parys
- Porth Amlwch
- Ysgol Syr Thomas Jones
- Melin Adda, Amlwch
- Stryd y Farchnad, Amlwch
- Eglwys Gatholig, Amlwch
- Capel Mawr, Amlwch
- Fferm Parys o'r bryn wrth gweddillion Ffermdy Bodgadfa
- Bull Bay Hotel, Porth Llechog (Bull Bay)
- Traeth rhwng Amlwch a Phorthllechog
- Melin Porth Amlwch Port Mill
- Porth Amlwch
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

