Rhun ap Iorwerth

gwleidydd ac Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia

Rhun ap Iorwerth
Remove ads

Gwleidydd Plaid Cymru a chyn-newyddiadurwr o Gymro yw Rhun ap Iorwerth (ganed 27 Awst 1972)[1]. Rhun yw arweinydd Plaid Cymru ers 16 Mehefin 2023.

Ffeithiau sydyn Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Plaid Cymru ...
Remove ads

Bywyd cynnar ac addysg

Ganwyd Rhun yn Nhon-teg, Rhondda Cynon Taf[2] yn fab i Edward Morus Jones a Gwyneth. Roedd ei dad yn brifathro ac yn rhan o'r ddeuawd 'Dafydd Iwan ac Edward' a 'Chwm Rhyd y Rhosyn'. Roedd ei fam yn athrawes ac wedi gweithio gyda Mudiad Meithrin a Merched y Wawr.[3]

Mynychodd Ysgol Rhyd-y-Main, Dolgellau am ychydig, cyn symud i Ynys Môn a mynychu Ysgol Gynradd Llandegfan, cyn cael ei addysg uwchradd yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.[4] Yna aeth i Brifysgol Caerdydd ble graddiodd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth yn 1993.[2]

Remove ads

Gyrfa newyddiaduraeth

Ymunodd Rhun gyda BBC Cymru ym 1994, a bu'n gohebu ar ddigwyddiadau San Steffan a Bae Caerdydd ar deledu a radio. Roedd hefyd yn gyflwynydd ar raglenni Post Cyntaf a Dau o'r Bae ar Radio Cymru ac ar Newyddion S4C, yn ogystal a rhaglenni Saesneg y BBC fel The Politics Show Wales a Dragon's Eye.[2]

Gyrfa wleidyddol

Gadawodd Ieuan Wyn Jones ei swydd fel aelod o'r Senedd dros Ynys Môn i arwain parc gwyddoniaeth newydd M-SParc. Yn dilyn hyn, a chyn yr isetholiad ar gyfer yr ynys yn 2013, ymddiswyddodd Rhun o'r BBC ac fe gafodd enwebiad Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd.[2] Daeth yn Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn yn Awst 2013 ar ôl ennill yr isetholiad yn gyfforddus.[2][5]

Yn 2018, dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood, y byddai'n croesawu her i'w arweinyddiaeth. Ar y diwrnod hwnna lawnsiwyd ymgyrchoedd Rhun ac Adam Price ar gyfer yr arweinyddiaeth. Enillodd Adam Price gyda 49.7% o'r pleidleisiau a chafodd Rhun ap Iorwerth 28% a Leanne Wood, 22.3%.[2]

Yn dilyn ymddiswyddiad Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru, ar 30 Mai 2023 cyhoeddodd Rhun y byddai yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth. Ni chafwyd unrhyw ymgeisydd arall erbyn y dyddiad cau a cadarnahwyd Rhun fel yr arweinydd newydd ar 16 Mehefin 2023.[5]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads