Irac

From Wikipedia, the free encyclopedia

Irac
Remove ads

Gwlad yn y Dwyrain Canol yn ne-orllewin Asia yw Gweriniaeth Irac neu Irac (Arabeg: العراق al-‘Irāq neu al-Erāq, Cyrdeg: عيَراق), sydd yn cynnwys y rhan fwyaf o Fesopotamia, gogledd-orllewin cadwyn y Zagros a dwyrain Anialwch Syria. Mae'n ffinio â Sawdi Arabia a Coweit i'r de, Gwlad Iorddonen i'r gorllewin, Twrci i'r gogledd, Syria i'r gogledd-orllewin ac Iran i'r dwyrain. Mae gan y wlad arfordir cyfyng ar Gwlff Persia.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...

Ystyrir Irac fel y man lle ymddangosodd y gymdeithas sefydlog gyntaf yn y byd gyda holl nodweddion "gwareiddiad" – sef gwareiddiad hynafol Swmeria. Bu Irac o dan chwydd wydyr y byd yn y 1990au a'r 2000au oherwydd Rhyfeloedd y Gwlff ac ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn yr ardal gan gynnwys dymchweliad yr Arlywydd Saddam Hussein, ffurfio llywodraeth ddemocrataidd newydd a'r gwrthdaro gwleidyddol ac ethnig sydd wedi rhwygo'r wlad byth ers hynny.

Remove ads

Daearyddiaeth

Prif: Daearyddiaeth Irac

Mae mwyafrif Irac yn ddiffeithdir, ond mae'r ardal rhwng y ddwy brif afon, Afon Ewffrates ac Afon Tigris, yn dir ffrwythlon. Mae gogledd y wlad yn fynyddig yn bennaf, gyda'i phwynt uchaf yn 3 611 metr, a elwir yn lleol yn Cheekah Dar (Pabell Ddu). Mae gan Irac arfordir cyfyng ar Gwlff Persia.

Hanes

Prif: Hanes Irac

Hen hanes

Mae Gweriniaeth Irac wedi ei sefydlu ar dir a abnabyddir yn hanesyddol fel Mesopotamia, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o fraich ddwyreiniol y Cilgant Ffrwythlon. Dyma oedd cartref nifer o'r gwareiddiadau cynharaf. Oherwydd hyn, gelwir yr ardal yn aml yn 'Grud Gwareiddiad'. Roedd yn gartref i ymerodraeth Akkad yn y gogledd a Swmeria ac yna Babilonia yn y de. Ymhlith ei dinasoedd enwog yn y cyfnod hwnnw gellid crybwyll Ur y Caldeiaid (dinas enedigol Abraham), Babilon (lle codwyd y Gerddi Crog enwog), Erek a Nimrwd.

Y cyfnod Helenistaidd a chlasurol

Yn sgîl cwymp Babilonia bu Mesopotamia dan reolaeth ymerodron Persia. Am gyfnod Babilon oedd prifddinas ymerodraeth fyrhoedlog Alecsander Fawr.

Yr Oesoedd Canol

Dan y califfiaid Abassid roedd Baghdad yn brifddinas y byd Mwslemaidd a blodeuai diwylliant unigryw a chyfoethog. Noddid llneorion, athronwyr ac athrawon. Newidiwyd hynny i gyda gyda chwymp Baghdad i luoedd y Mongoliaid yn y 13g a'r gyflafan a distryw a ddilynodd.

Y cyfnod trefedigaethol

Hanes diweddar

Pan enillodd Irac ei hannibyniaeth yn sgîl yr Ail Ryfel Byd daeth y Ba'athiaid i rym a chychwynwyd cyfnod o foderneiddio a seciwlareiddio. Daeth Saddam Hussein i rym yng Ngorffennaf 1979 a gwelwyd cyfnod o orthrwm i lawer, yn arbennig y Cyrdiaid yn y gogledd a'r Shiaid yn y de, a byd cymharol gyfforddus i eraill. Bu'r Ba'athiaid mewn grym drwy gyfnod y rhyfel yn erbyn Iran (1980–88) pan ymosodwyd ar filwyr a phobl Iran gydag arfau cemegol. Yn y cyfnod hwn cefnogwyd Saddam Hussein gan Brydain ac U.D.A. Parhaodd Irac i fod yn wlad seciwlar a roddai addysg a statws cydraddoldeb a chyfle i ferched y wlad fwynhau rhyddid sy'n cymharu'n dda â'u sefyllfa yn y Gorllewin.

Pan ymosododd Irac ar Coweit yn ystod Rhyfel y Gwlff yn Awst 1990, mabwysiadodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gynnig 678 dan bennod VII o Siarter y Cenhedloedd Unedig, gan roddi i'r gwledydd yr hawl i ddefnyddio "pob modd posibl" i "adfer heddwch rhyngwladol a diogelwch yr ardal" Ar ôl i Iraq gael ei bwrw allan o Coweit derbyniwyd cynnig o ymatal 687 gan y Cenhedloedd Unedig. Roedd hyn yn cynnwys gorfodi Iraq i derfynnu ei rhaglen o arfau niwclear a chemegolion angheuol, os oedd yn eu cynhyrchu.

Bu farw rhwng 20,000–35,000 o Iraciaid yn Rhyfel y Gwlff a 147 o'r Cynghreiriaid.[1][2]

Yn dilyn ei threchu yn Rhyfel y Gwlff (2 Awst 1990 – 28 Chwefror 1991), bu rhaid i fyddin yr Arlywydd Saddam Hussein dynnu allan o Coweit. Ond er fod 34 o wledydd yn gwrthrefyla yn ei erbyn, ni chafodd ei ddisodli.[3]

Yn dilyn 1991 gwelwyd sawl gwrthryfel mewnol yn Irac, gan gynnwys lluoedd o Gwrdiaid ym Mawrth ac Ebrill 1991, a elwir hefyd yn '1991 uprisings in Iraq|Intifada Sha'ab' gan yr Arabiaid a'r 'Gwrthreyfel Cenedlaethol' gan y Cwriaid. Ymunodd rhai o'r Arabiaid Shia gyda'r Cwrdiaid a gwelwyd sawl dinas yn dod i'w meddiant o fewn pythefnos cynta'r gwrthryfel. Canlyniad hyn oedd sefydlu gweriniaeth a elwir heddiw yn Gwrdestan Iracaidd.

Lediwyd Rhyfel Irac (2003 - 2011) gan fyddin Unol Daleithiau America, a disodlwyd Sadam, ond parhaodd y gwrthwynebiad i'r Unol Daleithiau a'r Cynghreiriaid am ddegawd a rhagor. Erbyn 2014 roedd Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (ISIS) wedi meddiannu talp o'r wlad, yn dilyn ymadawiaid lluoedd yr Unol Daleithiau a'r Cynghreiriaid. Cred llawer fod yr Americanwyr, o dan eu llywydd George W. Bush am ddial ar Saddam Hussein ar ôl ymosodiadau terfysgol 11 Medi 2001, ond nid oes tystiolaeth am unrhyw gysylltiad rhwng Irac a'r ymosodiadau.

Yn ystod Rhyfel Irac, a hyd at ddiwedd Mehefin 2005, bu farw 654,965 o bobl yn ôl y 'Lancet'[4][5][6]

Protestiodd miliynau o bobl yn erbyn y rhyfel yn Llundain ac yn ninasoedd eraill trwy'r byd gan ddod i'w hanterth yn Chwefror 2003; ond ni chafwyd effaith ar arweinwyr y ddwy wlad. Er hyn, parhaodd protestiadau am fisoedd i ddod.[7] Un o'r prif resymau dros benderfyniad Tony Blair dros fynd i'r Rhyfel oedd ei honiad fod gan Irac y gallu i ymosod gyda chemegau gwenwynig ar Brydain, gyda dim ond 45 munud o rybydd.

Fel canlyniad i Ryfel Irac cafwyd etholiadau yn 2005 ac etholwyd Nouri al-Maliki yn Brif Weinidog yn 2006 hyd at 2014. Ar ôl sefydlu'r llywodraeth newydd, daeth galwadau o'r gwledydd sy'n ffinio ag Irac ar luoedd America a Phrydain i adael y wlad,[8].

Ar 15 Mehefin 2009 cyhoeddodd Prif Weinidog Prydain, Gordon Brown, ymchwiliad i'r hyn a arweiniodd i'r Rhyfel gan gynnwys y 'rhesyma' a'r dystiolaeth a oedd ar gael i wneud y penderfyniad o fynd i'r rhyfel, 'er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol'. Gelwir yr ymchwiliad hwn yn Ymchwiliad Chilcot i Ryfel Irac a chychwynwyd ar y gwaith ar 24 Tachwedd 2009.

Remove ads

Taleithiau

Thumb
Taleithiau Irac

Rhennir Irac yn 18 talaith (muhafazah):

  1. Baghdād (بغداد)
  2. Salāh ad-Dīn (صلاح الدين)
  3. Diyālā (ديالى)
  4. Wāsit (واسط)
  5. Maysān (ميسان)
  6. Al-Basrah (البصرة)
  7. Dhī Qār (ذي قار)
  8. Al-Muthannā (المثنى)
  9. Al-Qādisiyyah (القادسية)
  1. Bābil (بابل)
  2. Al-Karbalā' (كربلاء)
  3. An-Najaf (النجف)
  4. Al-Anbar (الأنبار)
  5. Nīnawā (نينوى)
  6. Dahūk (دهوك)
  7. Arbīl (أربيل)
  8. Kirkuk (neu At-Ta'mim) (التاميم)
  9. As-Sulaymāniyyah (السليمانية)

Demograffeg

Prif: Demograffeg Irac

Mae tua 79% o boblogaeth Irac yn Arabiaid, 16% yn Cyrdiaid, 3% yn Persiaid a 2% yn Twrcmaniaid. Mae 62% o'r wlad yn Mwslemiaid Shi'a ithna, 33% yn Mwslemiaid Sunni a 5% o grefyddau eraill (yn cynnwys Cristnogaeth).[9] Roedd arfer bod nifer o Iddewon yn byw yn y wlad, ond ers heddiw mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi ymfudo i Israel.[9]

Iaith a diwylliant

Thumb
Rhai o bobl ifanc Irac.

Yr ieithoedd swyddogol yw Arabeg a Chyrdeg.[9]

Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn Fwslemiaid, yn Sunni neu'n Shia, ond ceir lleiafrif bychan ond dylanwadol o Gristnogion yn ogystal, yn arbennig yn y gorllewin. Mae rhai o gysegrfeydd pwysicaf y Shia i'w cael yn ne Irac, e.e. yn ninas sanctaidd Najaf.

Economi

Prif: Economi Irac

Dioddefai economi Irac yn y 1990au gan nad oedd hi'n cael prynu a gwerthu gyda gwledydd eraill yn dilyn Rhyfel y Gwlff.[10] Gwelwyd peth gwelliant yn y sefyllfa am gyfnod byr yn dilyn rhyfel 2003, ond dirywio mae'r economi ers hynny diolch i ansefydlogrwydd y wlad. Prif allforyn y wlad yw olew.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads