Anne Hidalgo

From Wikipedia, the free encyclopedia

Anne Hidalgo
Remove ads

Gwleidydd o Sbaen a Ffrainc yw Ana María "Anne" Hidalgo Aleu (ganwyd 19 Mehefin 1959) sy'n gwasanaethu fel Maer Paris ers 2014. Hi yw'r fenyw gyntaf i fod yn Faer Paris. Mae hi'n aelod o'r Blaid Sosialaidd (PS).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Ganwyd Hidalgo yn San Fernando, ger Cádiz, yn Andalucía, Sbaen, yn wyres i Sosialydd a ddaeth yn ffoadur i Ffrainc ar ôl diwedd Rhyfel Cartref Sbaen gyda'i deulu. Dychwelodd ei nain a'i thaid i Sbaen beth amser yn ddiweddarach. Cafodd Antoine Hidalgo, tad Anne, ei fagu gan rieni ei fam. Ymsefydlodd Antoine a'i wraig Maria yn Lyon ym 1961, gyda'u dwy ferch.

Cafodd Anne Hidalgo ei magu yn Vaise, 9fed arrondissement Lyon,[1] gan siarad Sbaeneg gyda'i rhieni a Ffrangeg gyda'i chwaer.[2] Mae ei chwaer hynaf, Marie, yn rheoli cwmni yn Los Angeles, UDA. Derbyniodd Anne ei haddysg ym Mhrifysgol Jean Moulin Lyon.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads