Ardal Folkestone a Hythe
ardal an-fetropolitan yng Nghaint From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ardal an-fetropolitan yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, yw Ardal Folkestone a Hythe (Saesneg: Folkestone and Hythe District; Ardal Shepway gynt).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 357 km², gyda 112,578 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Ashford i'r gorllewin, Dinas Caergaint ac Ardal Dover i'r gogledd, y Môr Udd i'r dwyrain, a Dwyrain Sussex i'r de.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, o dan yr enw "Ardal Shepway". Fe'i hailenwyd yn "Folkestone a Hythe" ym mis Ebrill 2018.
Rhennir yr ardal yn 30 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Folkestone. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Hythe, Hawkinge, Lydd a New Romney.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads