Asteraceae
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o'r teuluoedd mwyaf o blanhigion blodeuol yw Asteraceae neu Compositae (teulu llygad y dydd). Mae'n cynnwys tua 24,000 o rywogaethau mewn 1600-1700 genws a 12 is-deulu.[1] Ceir y teulu ledled y byd ac eithrio tir mawr Antarctica.[2] Mae gan aelodau'r Asteraceae lawer o flodau bach wedi'u trefnu mewn un pen sy'n edrych fel blodyn sengl. Mae'r teulu'n cynnwys cnydau (e.e. letysen, blodyn yr haul, artisiog), llysiau rhinweddol (e.e. tansi, camri), chwyn (e.e. dant y llew, creulys) a phlanhigion addurnol (e.e. Chrysanthemum, Dahlia).[2]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads